RYDYCH YMA > Hafan > Cymunedol, Addysg a Hamdden > Hamdden

Click here for English version

Click here to subscribe to RSS

Hamdden

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol
    Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 6058
Pysgota, hwylio, canwio, bordhwylio, llwybrau cerdded a gwylio adar

Mae Dŵr Cymru yn berchen 81 cronfa mewn rhai o ardaloedd prydferthaf y wlad. Ble’n ymarferol a diogel, byddwn yn cymell ymwelwyr i rannu’r adnoddau hyn. Ar safleoedd nifer o’n prif gronfeydd rydym wedi datblygu cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau fel pysgota, hwylio, canŵio, bordhwylio a deifio. Yn ogystal, mae rhai o’r safleoedd mwyaf yn cynnwys canolfannau ymwelwyr, cuddfannau gwylio adra, ardaloedd a llwybrau cerdded a natur.

Ar nifer o’r safleoedd mae swyddogion yn rheoli’r adnoddau ac yn edrych ar ôl ardaloedd bywyd gwyllt. Maent hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth gymell pobl i ymweld â’n safleoedd a chynnal pob math o weithgareddau, yn cynnwys cyrsiau pysgota plu, ‘bikeathons’ elusennol, teithiau cychod a llwybrau natur ac olrhain bywyd gwyllt.

NOFIO DIOGEL, NID MEWN CRONFEYDD - mae’r rhan fwyaf o bobl yn deall fod nofio mewn cronfeydd dwr yn gallu bod yn beryglus iawn. Er y gallant ymddangos yn llefydd gwych i ymlacio ar ddiwrnod poeth, mae’r offer otomatig o dan yr wyneb yn gallu gweithredu heb rybudd ar adegau. Mae hynny, ynghyd â’r ffaith fod y dŵr yn gallu bod yn oer a dwfn iawn yn creu problemau i’r nofwyr cryfaf yn ein plith. Mae’r rhan fwyaf o’n cronfeydd mewn lleoliadau diarffordd, ble mae’n fwy anodd trefnu gwasanaethau achub - felly cofiwch NOFIO DIOGEL, NID MEWN CRONFEYDD.

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am bysgota, cyfleusterau anabl a digwyddiadau ger ein cronfeydd.

corner

Lleoliad cronfeydd

Pysgota cronfeydd dŵr Cymru

Pysgota cronfeydd dŵr Cymru

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 470kb


Adnoddau hamdden cronfeydd dŵr Cymru

Adnoddau hamdden cronfeydd dŵr Cymru

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffeil: 460kb