RYDYCH YMA > Hafan > Cymunedol, Addysg a Hamdden > Addysg

Click here for English version

Click here to subscribe to RSS

Addysg

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau addysg - Clic yma i anfon ebost neu galwch 01443 492 720
Addysg

Mae Dŵr Cymru yn credu’n gryf mewn addysgu’r ifanc am yr amgylchedd ac wedi datblygu rhaglen o weithgareddau ar gyfer plant – Byw a Dysgu gyda Dŵr. Dyfeisiwyd nhw gan arbenigwyr addysg. Maent yn cysylltu â’r cwricwlwm cenedlaethol ac yn rhoi cyfle i blant ysgolion cynradd ddeall y cylch dŵr a rôl hanfodol dŵr yn ein bywydau bob dydd.

Ers lansio Strategaeth Addysg y cwmni yn 2002, mae degau o filoedd o blant wedi ymweld â’n canolfannau addysg - Cilfynydd a Rhosydd Cog yn y de, Cwm Elan yn y canolbarth ac Alwen yn y gogledd. Maent yn cyflogi athrawon ar secondiad neu swyddogion amgylcheddol llawn amser er mwyn helpu plant i ddysgu am bwysigrwydd dŵr a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol fel astudio pyllau dŵr ac afonydd, safaris bwystfilod bach, ac ymchwilio pridd a mwydod. Ni fyddwn yn codi am yr ymweliadau hyn.

Yn ogystal, rydym wedi cydweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi’r fenter ‘Think Water - Dewis Dŵr’. Ers Chwefror 2004, rydym wedi cynnal oeryddion dŵr mewn 384 ysgol o fewn ardaloedd Cymunedau Gyntaf drwy’r wlad. Ar ben hynny, mae Dŵr Cymru wedi negodi contract i alluogi ysgolion i brynu potel dŵr yfed o safon am bris rhad iawn.

corner

Gwybodaeth bellach

Byw a dysgu gyda dŵr

Cyflwyno plant i’r maes dŵr diddorol.

Clic yma i ddarllen mwy


Canolfannau addysg

Adnoddau a phrofiadau di-dâl ar gyfer y chwilfrydig

Clic yma i ddarllen mwy


Think Water - Dewis Dŵr

Think Water - Dewis Dŵr

Cynllun i gymell plant i yfed mwy o ddŵr yn y dosbarth, er mwyn gwella lefelau canolbwyntio. Clic yma i ddarllen mwy


Cronfeydd dwr yn beryglus – cadwch allan

Clic i ddysgu am beryglon cronfeydd a chwarae’r poster rhyngweithiol.

Gofalu am ein Treftadaeth

Gofalu am ein Treftadaeth

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffeil: 1400kb