RYDYCH YMA > Hafan > Cymunedol, Addysg a Hamdden > Cefnogi cymunedau > Cynlluniau cyfalaf

Cynlluniau cyfalaf
corner

Sut i gysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145
Cynlluniau cyfalaf

Prif gyfrifoldeb Dŵr Cymru yw rheoli, cynnal a diweddaru ei asedau er mwyn darparu cyflenwad dŵr yfed glân a dibynadwy a delio’n effeithiol â dŵr gwastraff er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd.

Wrth ddarparu’r gwasanaeth cyhoeddus hanfodol yma, byddwn yn gweithio’n galed i ddiogelu’r amgylchedd a’n treftadaeth. Ble’n addas, byddwn yn cynnal asesiad amgylcheddol ac yn bachu ar gyfleoedd i wneud gwaith cadwraethol pellach. Ar ben hynny, byddwn yn ymgynghori â’r cyrff perthnasol wrth ddyfeisio cynlluniau newydd er mwyn diogelu bywyd gwyllt a nodweddion archeolegol.

Cyn dechrau gwaith mawr byddwn yn cydweithio’n agos â chymunedau lleol ac yn cynnal arddangosfeydd cyhoeddus i esbonio’r gwaith ac ateb cwestiynau trigolion lleol. Os bydd y gwaith yn ymyrryd â chyflenwadau, neu bydd angen mynediad i adeiladau cwsmeriaid, byddwn yn rhoi pecynnau gwybodaeth cynhwysfawr i’r cwsmeriaid a effeithir yn uniongyrchol gan y gwaith ac yn trefnu llinell gymorth 24 awr. Os  bydd angen, bydd cwsmeriaid yn gallu gofyn i ni ymweld â nhw i esbonio effaith y gwaith.

Byddwn hefyd yn hysbysu’r awdurdod lleol, cyngor cymuned a’r Aelod Cynulliad perthnasol o’r gwaith.

corner

Gwybodaeth bellach

WaterAid

Yr unig elusen genedlaethol sy’n darparu dwr yfed diogel, rhwydweithiau carthffosiaeth ac addysg hylendid ar gyfer pobl dlawd ar draws y byd

Clic yma i ddarllen mwy

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Amheus? Cadwch nhw allan!

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffeil: 130kb