RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Gwaith y busnes > Carthffosydd yn gorlifo

Carthffosydd yn gorlifo

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145

Byddwn yn casglu dŵr gwastraff drwy ein rhwydwaith carthffosydd 17,600 cilomedr. Mae pibellau carthffosydd yn llawer mwy na phibellau dŵr am eu bod yn cludo dŵr gwastraff a dŵr glaw oddi ar dir a ffyrdd – sef carthffosydd cyfunol. Mae rhan helaeth o’r rhwydwaith yn hen, 60 blynedd ar gyfartaledd, gyda rhannau’n dyddio o oes Fictoria.

Mewn rhai llefydd nid yw’r rhwydwaith yn gallu ymdopi â’r galw cynyddol arno ac weithiau, yn enwedig ar ôl glaw trwm, mae’r carthffosydd yn gallu gorlifo i mewn i adeiladau. Byddwn yn asesu’r risg o hynny ac mae gostwng llifogydd carthion yn flaenoriaeth i’r cwmni. Rhwng 2000 a 2005 taclwyd problemau llifogydd 886 adeilad a bwriadwn fuddsoddi ar yr un lefel uchel fel rhan o raglen 2005 - 2010.

Taclo llifogydd

Rydym yn ymwybodol o’r trawma mae llifogydd carthion yn gallu achosi. Mae cwsmeriaid sy’n dioddef llifogydd o’r fath yn gallu hawlio iawndal.

Am fanylion pellach, darllenwch ein ‘Cod ymarfer carthion yn llifo o garthffosydd cyhoeddus’.

Braster olew a saim mewn carthffosydd

Mae’r ddogfen canlynol yn cynnwys arferion rheoli arlwyo da ar gyfer sefydliadau arlwyo. Mae’n cynghori sefydliadau bwyd o’r angen i gadw braster olew a saim allan o ddraeniau a charthffosydd. Wrth eu gwaredu mewn sinciau neu ddraeniau cegin byddant yn creu tagfeydd ac os yn cyrraedd pibellau dwr glaw a gyliau yn llygru nentydd ac afonydd.

 

corner

Gwybodaeth bellach

Côd Ymarfer Carthion yn llifo o garthffosydd cyhoeddus

Gofal Llifogydd

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 173kb

Carthffosydd yn gorlifo

Carthffosydd yn gorlifo

Galwch 0800 085 3968 (24 awr, 7 diwrnod yr wythnos)