Y Bwrdd Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol y cwmni ac am adolygu ei berfformiad gweithredol ac ariannol. Ar hyn o bryd mae’r Bwrdd yn cynnwys 3 cyfarwyddwr gweithredol a 8 cyfarwyddwr anweithredol (yn cynnwys cadeirydd y Bwrdd). Dyma nhw:
Lord Burns Cadeirydd
Penodwyd yn Gadeirydd ym mis Gorffennaf 2000. Mae’r Arglwydd Burns (63) yn gadeirydd Abbey National Plc, dirprwy gadeirydd Marks & Spencer Group Plc ac yn gyfarwyddwr anweithredol o Banco Santander Central Hispano a Pearson Plc. Urddwyd yn arglwydd am oes yn 1998 ac roedd gynt yn brif ymgynghorydd economaidd ac yn ysgrifennydd parhaol i’r Trysorlys. Mae hefyd yn gadeirydd corff llywodraethol yr Academi Gerdd Frenhinol ac yn gyn-gadeirydd Comisiwn y Loteri Genedlaethol.
Nigel Annett Rheolwr Gyfarwyddwr
Penodwyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn Ionawr 2005. Mae Mr Annett (48) wedi bod yn gyfarwyddwr gweithredol o Glas Cymru ers Ebrill 2000, ac o Dŵr Cymru ers Mai 2001. Roedd gynt yn gyfarwyddwr Dŵr Cymru rhwng 1992 a 2000 a chyn hynny wedi dal amryw swyddi gyda banciau buddsoddi megis Schroders, County Natwest a Wasserstein Perella.
Chris JonesCyfarwyddwr Cyllid
Penodwyd yn Gyfarwyddwr Cyllid Glas Cymru yn Ebrill 2000 ac o Dŵr Cymru ym Mai 2001. Roedd Mr Jones (43) gynt yn Gyfarwyddwr Rheoleiddio Dŵr Cymru a South Wales Electricity Plc. Cyn ymuno â Dŵr Cymru yn 1995, roedd yn gyfarwyddwr National Economic Research Associates a chyn hynny gweithiodd yn y Trysorlys ym maes cyfleustodau a phreifateiddio. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol o Principality Building Society ac yn aelod o fwrdd y Sefydliad Materion Cymreig.
Peter Perry Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Penodwyd yn gyfarwyddwr gweithredu ym mis Gorffennaf 2006. Cefndir Mr Perry (45) yw peirianneg sifil ac roedd gynt yn brif swyddog gweithredu United Utilities Operational Services (UUOS), ar ôl cyfnod fel cyfarwyddwr gweithredu UUOS gyda chyfrifoldeb am y contract gweithredu rhwng Dŵr Cymru a diddordebau dŵr UUOS yn yr Alban ac Iwerddon. Cyn ymuno ag UUOS gweithiodd i Dŵr Cymru am dros 17 blynedd.
John Bryant Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym Mawrth 2001. Roedd Mr Bryant (63) gynt yn brif weithredwr British Steel a, hyd fis Rhagfyr 2000, yn gyd brif weithredwr Corus Plc. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol o Costain Group Plc ac roedd yn gyfarwyddwr anweithredol o Bank of Wales Plc rhwng 1996 a 200.
Geraint Talfan Davies Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym mis Gorffennaf 2000. Roedd Mr Davies (63) yn newyddiadurwr a aeth ymlaen i fwynhau gyrfa ym meysydd darlledu cyhoeddus a phreifat, yn cynnwys Rheolwr BBC Cymru drwy’r 1990au ac yn ddiweddarach yn aelod Cymreig o’r Awdurdod Radio. Mae’n gadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig, yn aelod o Fforwm Ymgynghorol BT Cymru ac yn gyn-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru (2003-2006).
Dame Deidre Hine Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym Mawrth 2001. Mae’r Fonesig Deidre (69) yn gadeirydd BUPA Foundation a’r Royal Society of Medicine Press Board, yn aelod o Gomisiwn Penodiadau Tŷ’r Arglwyddi ac yn llywydd British Medical Association. Mae’n gyn-gadeirydd y Commission for Health Improvement, yn gyn-lywydd The Royal Society of Medicine ac yn gyn brif swyddog meddygol Cymru. Urddwyd yn DBE yn 1996 am ei gwasanaeth ym maes meddygaeth.
Tony Hobson Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd yn gyfarwyddwr anweithredol yn Chwefror 2001. Mae Mr Hobson (61) yn gadeirydd The Sage Group plc, Northern Foods Plc a Changing Faces – yr elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl gyda namau ar eu cyrff neu wynebau. Fel cyfrifydd siartredig, roedd yn gyfarwyddwr cyllid Legal & General Group Plc am 15 blynedd cyn ymddeol yn 2001
James Strachan Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym mis Mehefin 2007. Mae Mr Strachan (53) yn gyfarwyddwr anweithredol o Legal & General Group Plc a Care UK Plc, ac yn aelod o Lys Cyfarwyddwyr Banc Lloegr. Roedd gynt yn gadeirydd y Comisiwn Archwilio (2002-06) ac yn aelod o fwrdd Ofgem, y rheoleiddiwr ynni. Mae’n gadeirydd RNID (yr elusen anabledd) ble roedd gynt yn brif weithredwr, yn ymddiriedolwr o Somerset House ac yn gyn-gomisiynydd hawliau anabledd ac ymddiriedolwr o Save the Children. Yn gynharach yn ei yrfa roedd Mr Strachan yn fancwr buddsoddi gyda Merrill Lynch am 13 blynedd, a thua diwedd y cyfnod yn aelod o fwrdd Merrill Lynch International.