Ym mis Gorffennaf 1999, disodlwyd deddfau dŵr lleol Cymru a Lloegr gan y Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999. Cyflwynwyd nhw o dan amodau adran 74, Deddf Diwydiant Dŵr 1991 er mwyn atal gwastraff, camddefnydd, gorddefnydd, cam-fesur neu lygru dŵr yfed. Yn ogystal pennwyd rheolau ar gyfer cynllunio, gosod a chynnal systemau a ffitiadau dŵr. Bydd pob cwmni dŵr yn gweithredu’r Rheoliadau o fewn eu hardaloedd cyflenwi.
Rhaid i systemau a ffitiadau dŵr mewn adeiladau sydd wedi (neu am gael) eu cysylltu â’r system cyflenwi dŵr cyhoeddus ddilyn y Rheoliadau. Os yn bwriadu gwneud gwaith plymwr fel isod, bydd rhaid cael ein caniatâd ymlaen llaw
codi adeilad newydd
ymestyn neu addasu system ddŵr mewn unrhyw adeilad ac eithrio tŷ preswyl
newid sylweddol mewn defnydd o unrhyw adeilad
gosod unrhyw ffitiad a restrir yn adran 5 o’r Rheoliadau
adeiladu pwll dŵr neu bwll nofio mawr gydag adnoddau ail-lenwi otomatig
Mae WRAS (Water Regulations Advisory Scheme) wedi cyhoeddi canllaw rheoliadau dŵr sy’n esbonio’r Rheoliadau yn fwy manwl.
NB nodir y gofynion draenio statudol o dan amodau Deddf Adeiladu 1984 a’r rheoliadau adeiladu cysylltiedig.
Gwybodaeth bellach
The WRAS Water Regulations Guide
Click here to visit the WRAS web site for detailed requirements on water regulations.