Hafan | Mae Anna Walker yn ymuno â Bwrdd Glas Cymru
Mae Glas Cymru, perchennog Dŵr Cymru Welsh Water, yn cyhoeddi bod Anna Walker, CB, heddiw yn ymuno â Byrddau’r ddau gwmni fel cyfarwyddwr anweithredol. Mae Glas Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd Geraint Talfan Davies, un o gyfarwyddwyr sefydlu Glas, yn rhoi’r gorau iddi fel cyfarwyddwr anweithredol ddiwedd mis Mawrth, gan iddo fod wedi gwasanaethu am ddeng mlynedd fel cyfarwyddwr anweithredol.
Mae gan Anna gyfoeth o brofiad mewn gwasanaethau cwsmeriaid, llunio polisïau a rheoleiddio, ac mae hi wedi cwblhau adroddiad annibynnol yn ddiweddar, a gomisiynwyd gan y llywodraeth i fater codi tâl am ddŵr i gartrefi. Mae hi’n Gadeirydd y Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd (rheolydd y rheilffyrdd), ac ‘roedd hi, o’i greadigaeth ym mis Ebrill, 2004 tan fis Mawrth, 2009, yn Brif Weithredwr y Comisiwn Gofal Iechyd, y corff sy’n gyfrifol am y gwaith o reoleiddio annibynnol ar ofal iechyd yn y GIG a’r sector gofal iechyd preifat. ‘Roedd hi gynt yn Gyfarwyddwr Cyffredinol, Defnydd Tir a Materion Gwledig yn Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig); Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Ynni yn yr Adran Masnach a Diwydiant; a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol yn Oftel (Y Swyddfa Delathrebu), rheolydd y sector telathrebu. Mae Anna hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol Llais Defnyddwyr, y corff statudol sy’n eiriol dros gwsmeriaid.
Fe ddywedodd Anna: “‘Rwyf wrth fy modd o fod yn ymuno â Bwrdd Glas Cymru. ‘Rwyf wedi dod i adnabod y diwydiant dŵr yn dda iawn yn y blynyddoedd diwethaf fel rhan o’m hadolygiad o godi tâl am ddŵr i gartrefi. Dŵr yfed diogel a glanweithdra dibynadwy yw’r mwyaf hanfodol o wasanaethau cyhoeddus. ‘Rwyf yn falch yn awr o fod yn ymuno â blaen y gad yn y busnes pwysig hwn.”
Geraint Talfan Davies oedd un o gyfarwyddwyr sefydlu Glas Cymru ac mae wedi gwasanaethu ar y Bwrdd fel cyfarwyddwr anweithredol ers mis Gorffennol, 2000. Fe fydd yn rhoi’r gorau iddi o fod ar y Bwrdd ddiwedd mis Mawrth.
Fe ddywedodd Bob Ayling, Cadeirydd Glas Cymru: “Yn Geraint Talfan Davies, ‘rydym yn colli un o’n cyfarwyddwyr pybyr sydd wedi gwasanaethu’r cwmni gydag ymrwymiad dwfn a brwdfrydedd mawr o’r dechrau un pan ffurfiwyd Glas Cymru gyntaf i afael yn awenau perchnogaeth Dŵr Cymru ddeng mlynedd yn ôl. Mae’n gadael y Bwrdd gyda’n diolchgarwch a’n diolch am ei gyfraniad a’i gefnogaeth enfawr dros y blynyddoedd, sydd wedi bod yn anferth.
“Yn Anna Walker, ‘rydym wedi sicrhau gwasanaethau rhywun sydd â phrofiad a dealltwriaeth enfawr o faterion sydd o bwysigrwydd hanfodol i Dŵr Cymru; cwsmeriaid a rheolyddion. Nid yn unig mae ganddi brofiad dihafal o reoleiddio, ond mae’i hymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid a rhoi cwsmeriaid yng nghraidd pethau – yn enwedig cwsmeriaid diymgeledd ac yn y sefyllfaoedd hynny ble nad oes gan gwsmeriaid ddewis – yn taro tant pendant â’r ethos ‘rydym wedi’i sefydlu yma yn Welsh Water. ‘Rwyf wrth fy modd bod Anna wedi cytuno i ymuno â ni.”