Hafan | Am y Cwmni
Mae Dŵr Cymru yn eiddo i Glas Cymru, cwmni un pwrpas heb gyfranddeiliaid a redir yn llwyr er lles ei gwsmeriaid.
Nod model busnes Glas Cymru yw lleihau cost ariannu asedau Dŵr Cymru, sef prif gostau unrhyw gwmni dŵr.
O dan berchnogaeth Glas Cymru, ariennir asedau a buddsoddiad cyfalaf Dŵr Cymru gan fondiau a gwargedion ariannol.
Hyd yma defnyddiwyd yr arbedion ariannol i ddatblygu cronfeydd wrth gefn y cwmni er mwyn diogelu Dŵr Cymru a’i gwsmeriaid rhag unrhyw gostau annisgwyl a gwella ansawdd ei gredyd er mwyn cadw costau cyllid mor isel â phosibl yn y dyfodol.
Manylion ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff a’n partneriaid contract wrth ddarparu gwasanaethau pob ddydd.
Rolau a chyfrifoldebau ein Rheoleiddwyr a ’u manylion cyswllt.