Hafan | Am y Cwmni | Glas Cymru | Y Cyfarwyddwyr

Y Cyfarwyddwyr

Bwrdd y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol y cwmni ac am adolygu ei berfformiad gweithredol ac ariannol. Ar hyn o bryd mae’r Bwrdd yn cynnwys 3 chyfarwyddwr gweithredol ac 8 cyfarwyddwr anweithredol (yn cynnwys cadeirydd y Bwrdd).

Photo of Bob Ayling

Bob Ayling Cadeirydd

Penodwyd Mr Ayling (63) fel Cyfarwyddwr Anweithredol yn Ebrill 2008, a daeth yn Gadeirydd Glas Cymru yng Ngorffennaf 2010. Mae hefyd yn Is–Gadeirydd Dyson Limited ac yn Gadeirydd y Ganolfan Ryngwladol er Datrys Anghydfodau. Cyfreithiwr yw Mr Ayling yn ôl ei alwedigaeth. Mae ganddo 20 mlynedd o brofiad yn y Ddinas yn Llundain ac fel uwch–gynghorydd cyfreithiol i’r Llywodraeth yn yr Adran Fasnach a Diwydiant. Bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr ac yn Brif Weithredwr British Airways plc rhwng 1993 a 2000. Mae hefyd yn gyn–Gadeirydd Holidaybreak plc ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol y Royal & Sun Alliance Insurance Group.

Photo of Nigel Annett

Nigel Annett Rheolwr Gyfarwyddwr

Penodwyd Mr Annett (50) yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn Ionawr 2005. Mae e wedi bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol dros Glas Cymru ers Ebrill 2000, a dros Ddŵr Cymru ers Mai 2001. Bu gynt yn gyfarwyddwr gyda Dŵr Cymru rhwng 1992 a 2000 a chyn hynny daliodd amryw swyddi gyda banciau buddsoddi fel Schroders, County Natwest a Wasserstein Perella.

Photo of Chris Jones

Chris Jones Cyfarwyddwr Cyllid

Penodwyd Mr Jones (45) yn Gyfarwyddwr Cyllid dros Glas Cymru yn Ebrill 2000 a dros Ddŵr Cymru ym Mai 2001. Bu gynt yn Gyfarwyddwr Rheoleiddio Dŵr Cymru a South Wales Electricity Plc. Cyn ymuno â Dŵr Cymru ym 1995, roedd yn gyfarwyddwr National Economic Research Associates a chyn bu’n gweithio dros y Trysorlys ym maes cyfleustodau a phreifateiddio. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol o Principality Building Society ac yn aelod o fwrdd y Sefydliad Materion Cymreig. Mae e hefyd yn Is–Gadeirydd Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru.

Photo of Peter Perry

Peter Perry Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Penodwyd Mr Perry (47) yn gyfarwyddwr gweithredu ym mis Gorffennaf 2006. Mae ei gefndir ym maes peirianneg sifil ac roedd gynt yn brif swyddog gweithredu United Utilities Operational Services (UUOS), a threuliodd gyfnod fel cyfarwyddwr gweithredu UUOS gyda chyfrifoldeb dros y contract gweithredu rhwng Dŵr Cymru a buddiannau dŵr UUOS yn yr Alban ac Iwerddon. Cyn ymuno ag UUOS, treuliodd dros 17 blynedd yn gweithio dros Ddŵr Cymru. Mae e’n cynrychioli Cymru fel Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Ymgynghorol ar Reoleiddio Dŵr, y corff cenedlaethol sy’n pennu safonau o ran y deunyddiau a’r saernïaeth a ddefnyddir mewn dŵr yfed.

Photo of John Bryant

John Bryant Cyfarwyddwr Anweithredol

Penodwyd Mr Bryant (66) yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym Mawrth 2001. Bu gynt yn brif weithredwr British Steel a, than Rhagfyr 2000, yn gyd brif weithredwr Corus Plc. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol o Costain Group Plc ac roedd yn gyfarwyddwr anweithredol Bank of Wales Plc rhwng 1996 a 2001.

Photo of Tony Hobson

Tony Hobson Cyfarwyddwr Anweithredol

Penodwyd Mr Hobson (62) yn gyfarwyddwr anweithredol yn Chwefror 2001. Mae’n gadeirydd The Sage Group plc, Northern Foods Plc a Changing Faces – yr elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl gyda namau ar eu cyrff neu wynebau. Fel cyfrifydd siartredig, bu’n gyfarwyddwr cyllid Legal & General Group Plc am 15 blynedd cyn ymddeol yn 2001.

Photo of Professor Stephen Palmer

Yr Athro Stephen PalmerCyfarwyddwr Anweithredol

Penodwyd yr Athro Palmer (58) yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym mis Hydref 2009. Mae’n Athro Epidemioleg ac Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Diogelu Iechyd Prif Swyddog Meddygol Cymru. Rhwng 2003 a 2010, bu'n Gyfarwyddwr is-adran peryglon cemegol yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, yr is–adran gwasanaethau lleol a rhanbarthol, ac yn bennaeth epidemioleg. Ac yntau’n Gymrawd yng Nghyfadran Iechyd y Cyhoedd a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr, bu’n ffigwr dylanwadol ym maes iechyd y cyhoedd ers dros 25 mlynedd. Bu’n dal sawl swydd broffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd ac mae wedi ysgrifennu llu o lyfrau a phapurau pwysig am glefydau heintus a pheryglon cemegol.

Photo of Menna Richards

Menna Richards Cyfarwyddwr Anweithredol

Penodwyd Menna Richards yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym mis Tachwedd 2010. Tan yn ddiweddar, hi oedd Cyfarwyddwr BBC Cymru, ond rhoddodd y gorau i’r swydd honno ym mis Chwefror 2011. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Opera Cenedlaethol Cymru. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Rheolwraig BBC Cymru, Cyfarwyddwraig Rheoli HTV Cymru a Chyfarwyddwraig Darlledu HTV Group plc. Yn ogystal, bu Menna yn Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn aelod o Fwrdd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Mae’n gyfarwyddwraig ar Fwrdd Opera Cenedlaethol Cymru ac yn Is–lywydd Prifysgol Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cafodd Menna OBE am ei gwasanaeth i’r byd darlledu yn 2010.

Photo of James Strachan

James Strachan Cyfarwyddwr Anweithredol

Penodwyd Mr Strachan (56) yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym mis Mehefin 2007. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol Legal & General Group Plc, JP Morgan Asian Investment Trust, yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, Sarasin and Partners LLP a Social Finance Limited. Mae’n Gymrawd Gwadd ym maes risg a rheoleiddio yn LSE. Bu gynt yn gadeirydd y Comisiwn Archwilio, yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Banc Lloegr a Care UK plc, yn aelod o fwrdd Ofgem (y rheoleiddiwr ynni), yn gadeirydd yr elusen RNID ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Merrill Lynch.

Photo of Anna Walker

Anna Walker Cyfarwyddwr Anweithredol

Penodwyd Anna yn Gyfarwyddwraig Anweithredol ym Mawrth 2011. Mae ganddi gyfoeth o brofiad ym maes gwasanaethau i gwsmeriaid, llunio polisïau a rheoleiddio. Yn ddiweddar, cwblhaodd adroddiad annibynnol ar daliadau dŵr domestig dan gomisiwn y llywodraeth. Hi yw Cadeirydd Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd a hi oedd Prif Weithredwraig y Comisiwn Gofal Iechyd, y corff sy’n gyfrifol am reoleiddio gofal iechyd yn yr NHS a'r sector gofal iechyd preifat yn annibynnol o’r cychwyn, ym mis Ebrill 2004, tan fis Mawrth 2009. Bu gynt yn Gyfarwyddwraig Gyffredinol Defnydd Tir a Materion Gwledig Defra, yn Gyfarwyddwraig Gyffredinol Grŵp Ynni y DTI, ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwraig Gyffredinol Oftel, rheoleiddiwr y sector telathrebu. Mae Anna yn gyfarwyddwraig anweithredol dros Lais y Defnyddwyr, y corff statudol sy’n hyrwyddo hawliau defnyddwyr.