Hafan | Yn y Gymuned, Addysg a Hamdden | Addysg | Canolfannau Addysg
Mae gan Dŵr Cymru bedair canolfan addysg ar draws y wlad.
Gall ysgolion drefnu ymweliadau yn RHAD AC AM DDIM.
Athro cyfnod allweddol 2 ar secondiad sy’n rheoli ein Canolfan Addysg Amgylcheddol yn y gogledd. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur a theithiau o gwmpas y gwaith trin dŵr gwastraff. Gall ysgolion cynradd ymweld â’r safle i chwilio yn y pyllau dŵr, mynd ar safaris bwystfilod bach, astudio planhigion a chynnal arbrofion yn yr ystafell ddosbarth, gyda’r holl waith yn gysylltiedig â’r cwricwlwm. Mae’r rhaglen addysg hefyd yn cynnwys arddangosfa hanesyddol o’r gwaith i adeiladu argae Alwen.
Mae canolfan Cilfynydd wedi ennill gwobrau ac mae’n cynnwys ystafelloedd dosbarth dan do ac awyr agored o dan reolaeth athro cyfnod allweddol 2 ar secondiad. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur, astudiaethau afon Taf a theithiau o gwmpas y gwaith trin dŵr gwastraff. Gall ysgolion cynradd ymweld â’r safle i chwilio yn y pyllau dŵr, mynd ar safaris bwystfilod bach, astudio planhigion a chynnal arbrofion yn yr ystafell ddosbarth, gyda’r holl waith yn gysylltiedig â’r cwricwlwm.
Athro cyfnod allweddol 2 ar secondiad sy’n rheoli ein Canolfan Addysg Amgylcheddol mewn ardal gadwraeth sefydledig ger Caerdydd. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur a theithiau o gwmpas y gwaith trin dŵr gwastraff. Gall ysgolion cynradd ymweld â’r safle i chwilio yn y pyllau dŵr, cyfeiriannu, mynd ar safaris bwystfilod bach, astudio planhigion a chynnal arbrofion yn yr ystafell ddosbarth, gyda’r holl waith yn gysylltiedig â’r cwricwlwm cenedlaethol.
Mae’r swyddog addysg yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan wrth reoli ystafell ddosbarth sy’n llawn adnoddau defnyddiol. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau dŵr bywyd gwyllt, llwybrau natur a thaith o gwmpas yr argaeau. Gall ysgolion ddod i chwilio yn y pyllau dŵr, mynd ar safaris bwystfilod bach, astudio planhigion a chynnal arbrofion yn yr ystafell ddosbarth, gyda’r holl waith yn gysylltiedig â’r cwricwlwm cenedlaethol. Mae’r ardal yn cynnwys cyfoeth o anifeiliaid a phlanhigion, sy’n gwneud ardal Elan yn safle bywyd gwyllt o bwys rhyngwladol.