Hafan | Gyrfaoedd
Os ydych chi am newid gyrfa neu’n chwilio am her newydd, mae Dŵr Cymru yn lle unigryw i weithio.
Byddwch yn ymuno â thîm o bobl gyfeillgar ac yn gweithio dros gwmni cyfleustodau blaenllaw – busnes sydd wedi ennill llawer o wobrau, gan gynnwys gwobr Cwmni Rhanbarthol y Flwyddyn BITC yng Nghymru yn 2007.
Gallwn gynnig amrywiaeth o gyfleoedd a gyrfaoedd cyffrous mewn amgylchedd creadigol. Mae ein tâl a buddion yn cymharu’n dda â llawer yn y diwydiant.
Mae Dŵr Cymru’n gwmni y gallwch ymfalchïo ynddo. Mae gennym enw rhagorol am ddarparu gwasanaethau o ansawdd da trwy ein gwaith, ac yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.