19/07/2012
Gwaith gan Dŵr Cymru i liniaru llifogydd yn Noc Penfro
Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn buddsoddi Ł1.4 miliwn mewn cynllun fydd yn helpu i liniaru’r perygl o lifogydd ac yn darparu buddion amgylcheddol yn ardal Doc Penfro.
Mae gwaith yn dechrau ar y safle yr wythnos hon i gynyddu cynhwysedd y rhwydwaith dŵr gwastraff lleol er mwyn ei alluogi i ddelio gyda chyfaint uwch o ddŵr stormydd yn ystod cyfnodau o law mawr. Yn ystod yr amgylchiadau tywydd hyn, mae rhai eiddo yn yr ardal wedi cael profiad o lifogydd, ac fe fydd y cynllun hwn yn helpu i leihau’r perygl y bydd hyn yn digwydd yn y dyfodol.
Fe fydd y prosiect yn golygu adeiladu pibwaith newydd traean milltir o hyd ac adeiladu gorsaf bwmpio dŵr gwastraff newydd. ‘Rydym yn rhagweld y bydd y cynllun yn cymryd oddeutu pedwar mis i’w gwblhau, ac fe fydd yn golygu gwaith cloddio yn Heol Llundain (London Road), gan symud i Heol Waterloo (Waterloo Road). Er mwyn galluogi’r gwaith i gael ei gwblhau yn ddiogel ac yn gyflym, fe fydd yna oleuadau traffig dwyffordd ar waith ar Heol Waterloo.
Fe ddywedodd Martin Kilroy Dŵr Cymru Welsh Water, “’Rydym yn sylweddoli’r trallod y gall llifogydd dŵr gwastraff mewnol i eiddo ei achosi, ac ‘rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag o. Mae’n prosiect yn Noc Penfro yn adlewyrchu hyn a’n nod o ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i gwsmeriaid. Tra byddwn ni wrthi’n gweithio, ni fydd yna effaith ar y gwasanaeth dŵr gwastraff i bobl leol, ac fe wnawn geisio cwblhau’r gwaith cyn gyflymed â phosibl.
“’Rydym yn gwybod bod gweithio yng nghanol y gymuned yn achosi anhwylustod, ond mae hwn yn waith hanfodol fydd yn helpu i liniaru’r problemau llifogydd cyfredol, ac yn dod â budd i’r ardal am flynyddoedd i ddod.”
Fe gysylltodd Dŵr Cymru gyda chyrff perthnasol, yn cynnwys Cyngor Sir Benfro ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, yn ystod camau cynllunio’r prosiect.
Mae Dŵr Cymru yn buddsoddi’n hael ac yn gweithio’n galed i sicrhau gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’r holl gymunedau maent yn eu gwasanaethu. Mae’r cwmni’n buddsoddi Ł1.5 biliwn yn ei rwydwaith dŵr a charthffosiaeth rhwng 2010 a 2015.
Mae’n ‘gwmni nid-er-elw’ sydd wedi bod ym mherchnogaeth Glas Cymru ers 2001. Nid oes gan Dŵr Cymru gyfranddalwyr, ac mae unrhyw wargedion ariannol yn cael eu hail-fuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid.
