16/07/2012

Mae Dwr Cymru yn darparu hwb amgylcheddol i Benrhyndeudraeth

Mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi £720,000 mewn cynllun fydd yn darparu buddion amgylcheddol i bentref Penrhyndeudraeth.

Fe fydd y cwmni cyfleustod yn dechrau gwaith ddydd Llun, y 23ain o Orffennaf yn ardal Penrhyndeudraeth i osod cyfarpar sgrinio newydd rhag dwr stormydd ac i uwchraddio rhan o’r rhwydwaith dwr gwastraff presennol.

Fe fydd gwaith yn cynnwys adeiladu cyfarpar sgrinio newydd, pibwaith cysylltiedig a chysylltiadau i ddraenio dwr wyneb yn yr orsaf bwmpio bresennol ger yr orsaf reilffordd.

Fe fydd Dwr Cymru hefyd yn cynnal gweithiau uwchraddio i bibwaith presennol yn y dref. Mae disgwyl y bydd y prosiect wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Hydref.

Er mwyn i’r cynllun gael ei gwblhau’n ddiogel, mae o wedi’i gytuno gyda’r awdurdod priffyrdd lleol y bydd hi’n angenrheidiol cyflwyno camau o reolaeth ar draffig tra bod gwaith yn cael ei wneud fel a ganlyn:

• Fe fydd pen draw Stryd Fawr yn Stryd yr Ysgol ynghau o ddiwedd mis Gorffennaf am dair wythnos.
• O ddiwedd mis Gorffennaf, fe fydd y ffordd yn cael ei chau ym mhen draw Cambrian View lle mae’r ffordd yn cyfarfod a’r A487 am chwe wythnos.
• O ganol mis Awst, fe fydd y llif traffig ar Glan Llyn yn cael ei reoli gan arwyddion am wythnos.
• Fe fydd yna oleuadau traffig dwyffordd ar Stryd Fawr o ddiwedd mis Medi am oddeutu pythefnos.
• Fe fydd y ffordd yn cael ei chau yn Castle Cottage o ddiwedd mis Medi am wythnos.

Yn ystod yr amseroedd hyn, fe fydd unrhyw ffyrdd dargyfeirio traffig yn cael eu marcio’n eglur, ac fe fydd mynediad yn parhau i breswylwyr a busnesau, lle y bo’n bosibl.

Fe ddywedodd Jill Roberts, cynrychiolydd cyfathrebu Dwr Cymru: “Mae’r cynllun hanfodol hwn yn adlewyrchu’n hymrwymiad i barhau i fuddsoddi yn ein rhwydwaith dwr gwastraff er budd ein cwsmeriaid a’r amgylchedd lleol. ‘Rydym yn sylweddoli’r anhwylustod y gall gwaith fel hwn ei achosi ond mae’r camau hyn yn angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau’n ddiogel. ‘Rydym wedi cysylltu’n agos gyda’r awdurdod priffyrdd lleol a phreswylwyr cyn dechrau gwaith ar y cynllun i’w hysbysu nhw’n llawn yn rheolaidd am ein cynlluniau, ac fe ofynnwn i’r gymuned leol fod yn amyneddgar gyda ni yn ystod y gweithiau hanfodol hyn.”