14/06/2012

Mae Dŵr Cymru Welsh Water am fuddsoddi Ł1 biliwn dros y tair blynedd nesaf

Fe wnaeth Dŵr Cymru Welsh Water heddiw gyhoeddi y byddant yn buddsoddi Ł1 biliwn dros y tair blynedd nesaf ar ystod eang o brosiectau yn ymwneud â seilwaith ledled Cymru, Swydd Henfford a Glannau Dyfrdwy.

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys Ł100 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol mewn prosiectau nad oeddynt yn wreiddiol wedi’u clustnodi ar gyfer y cyfnod buddsoddi rheoliadol cyfredol o 5 mlynedd (2010-15). Mae’r rhaglen garlam hon yn cael ei gwneud yn bosibl gan y buddion effeithlonrwydd o ran cyllido a ddaw o berchnogaeth “nid-er-elw” unigryw Glas Cymru ar Dŵr Cymru.

Fe fydd y gwariant uchaf erioed hwn ar fuddsoddi yn cael ei wneud, tra bod biliau cyfartalog i gartrefi yn gostwng mewn termau real. Fe fydd yn cyflawni llu o welliannau i’r gwasanaeth cyhoeddus hanfodol y mae Dŵr Cymru yn ei ddarparu i 3 miliwn o bobl, yn cynnwys, er enghraifft, gwaith uwchraddio sylweddol i weithfeydd trin dŵr a dŵr gwastraff mewn lleoedd fel Llyswen (Powys), Y Bala (Meirionnydd) ac Aberporth (Ceredigion), a gwell cynlluniau ynni adnewyddadwy fel yn ein gwaith trin dŵr gwastraff yn Wrecsam. Ar adeg pan fo llawer o gwmnďau a chyrff cyhoeddus yn cwtogi ar fuddsoddi, mae’r rhaglen fuddsoddi hon yn cyflogi tua 10% o’r sector adeiladu yn ein rhanbarth, gyda mwy na 50% o wariant yn mynd i gwmnďau lleol yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnal tua 1,500 o swyddi.

Gan gyhoeddi canlyniadau’r Cwmni ar gyfer y flwyddyn yn gorffen yr 31ain o Fawrth, 2012, fe ddywedodd Bob Ayling, y Cadeirydd: “Ein huchelgais yw cyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’n cwsmeriaid, gan gyflenwi dŵr yfed o’r ansawdd uchaf a diogelu’r amgylchedd ‘rydym yn ei warchod ar ran y cymunedau ‘rydym yn eu gwasanaethu. ‘Rydym hefyd yn gobeithio dangos bod y model busnes unigryw ‘rydym wedi’i sefydlu ar gyfer y diwydiant dŵr yn ein rhanbarth yn gweithio i’n cwsmeriaid. ‘Rwyf yn falch o adrodd ein bod ni wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y flwyddyn tuag at y ddau amcan hyn.

“Mae model Glas Cymru yn golygu mai’n blaenoriaeth gyntaf yw i’n cwsmeriaid a gwarchod seilwaith helaeth Dŵr Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. ‘Rydym wedi gallu cyflymu buddsoddiad a gwneud mwy i’n cwsmeriaid tra bod biliau yn gostwng mewn termau real. ‘Rydym hefyd yn gwella’r profiad y mae’n cwsmeriaid yn ei dderbyn pan fônt yn delio gyda ni o ddydd i ddydd. Fe gyrhaeddodd boddhad cwsmeriaid y lefel uchaf erioed o 90%, ac ‘roeddem yn cael ein rhestru ymysg y cwmnďau gorau ar dabl cynghrair Y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr (Ofwat) yn y diwydiant o ran boddhad cwsmeriaid. Mae cwynion gan gwsmeriaid wedi mwy na haneru, ac nid ydynt erioed wedi bod yn is. Yr hyn sydd wedi bod yn neilltuol o galonogol yw’r canlyniadau o’r ddau arolwg annibynnol o’n cwsmeriaid busnes mwyaf, a ddangosodd bod boddhad cyffredinol gyda’n gwasanaeth yn awr wedi cyrraedd 89%. Ac ar adeg pan fo incymau cartrefi dan bwysau mawr, yn enwedig yn ein rhanbarth ni, ‘rydym yn falch ein bod ni’n gwneud mwy nag unrhyw gwmni dŵr arall i helpu, gyda mwy na 44,000 o’n cwsmeriaid lleiaf cefnog yn elwa oddi wrth un o’n tariffau cymdeithasol neu’n Cronfa Cymorth Cwsmeriaid.”

Fe ellir canfod copi llawn o Adroddiad y Canlyniadau Rhagarweiniol yma - cliciwch yma

Uchafbwyntiau am y flwyddyn

Canlyniadau Ariannol

Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Yr Amgylchedd

Gorffen

Ymholiadau i swyddfa gwasg Dŵr Cymru Welsh Water ar 029 2055 6140.