corner

Newyddion / Datganiadau i’r wasg

DCWW Logo

12/05/2008

Heb os nac oni bai – ewch am gasgen!

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn cynnig cynorthwyo cwsmeriaid i Fod yn Gall gyda Dwr yr haf hwn

 

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn cynnig y cyfle i’w cwsmeriaid gynorthwyo’r amgylchedd a chadw’u gerddi’n las yr haf hwn drwy gael casgen ddwr ar ddisgownt.

 

Y mae’r cwmni ‘nid-er-elw’, nad oes ganddo gyfranddalwyr, wedi ymuno a Blackwall, sy’n darparu cynnyrch gerddi amgylcheddol, i gynnig y cyfle i gwsmeriaid brynu casgenni dwr i’r ardd am brisiau cystadleuol. Y mae hyn yn rhan o fenter barhaus ‘Byddwch yn Gall gyda Dwr’ sydd gan Dwr Cymru Welsh Water, sydd wedi’i hanelu at sicrhau bod Cymru yn ymdopi gyda’r hafau poethion a sychion a gant eu darogan am y dyfodol.

 

Y mae gosod un neu fwy o gasgenni dwr, i gasglu dwr glaw o do’ch ty, yn cynorthwyo i osgoi’r angen i ddefnyddio dwr yfed o ansawdd uchel i ddyfrhau’ch planhigion a’ch lawnt. Y mae hefyd yn arbed adnoddau dwr gwerthfawr ac yn gostwng faint o ynni sydd ei angen i drin a dosbarthu cyflenwadau dwr, ac y mae hyn o fudd i’r amgylchedd.

 

O dan delerau’r cynnig i gael casgenni dwr Dwr Cymru Welsh Water, fe all cwsmeriaid brynu un gasgen ddwr ac fe gynigir ail un iddynt am hanner pris. Fe all cwsmeriaid fanteisio ar y cynnig am gasgen ddwr drwy fynd i wefan Dwr Cymru Welsh Water yn www.dwrcymru.com neu drwy ffonio 0844 600 8933.

 

Fe ddywedodd rheolwr cyfathrebu effeithlonrwydd dwr Dwr Cymru Welsh Water, Rhian Morris: “Nid ydym yn ceisio a chyfyngu ar ddefnydd cwsmeriaid o ddwr - yr ydym yn dweud: defnyddiwch gymaint o ddwr yfed ag y mae arnoch angen, ond osgowch ei wastraffu, os gwelwch yn dda.

 

“Tra bod Cymru wedi mwynhau ers amser maith gyflenwad toreithiog o ddwr, o ganlyniad i fwy o law blynyddol na chyfartaledd y Deyrnas Unedig, y mae arbenigwyr yn darogan y bydd y newid yn yr hinsawdd yn golygu mwy o hafau poethion a sychion. Os gwnawn oll ddod yn fwy effeithlon gyda dwr yn ein bywydau beunyddiol, fe allwn ostwng yr angen posibl am waharddiad ar bibelli dwr neu gyfyngiadau eraill.”

 

Y mae cynghorion i fod yn effeithlon gyda dwr ar gyfer y cartref a’r ardd ar gael ar wefan y cwmni, ac fe all cwsmeriaid hefyd wneud addewid i ostwng rhagor ar eu defnydd o ddwr drwy beidio a defnyddio taenellwr gardd. Mewn un awr, fe all taenellwr ddefnyddio 1000 litr o ddwr, yr un faint a theulu o bedwar dros ddeuddydd.

 

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi gwneud eu hymrwymiad ‘Byddwch yn Gall gyda Dwr’ eu hunain drwy addo ymdrin a gollyngiadau mawrion yn syth, hysbysu cwsmeriaid ynglyn a chynnydd y gwaith o ran gollyngiadau llai y maent wedi rhoi gwybod amdanynt, a bwrw ymlaen gyda’u buddsoddiad gwerth £250 miliwn mewn prif bibellau dwr erbyn 2010, gan ostwng mynychder rhwygiadau a gollyngiadau.

 

“Nid ydym wedi cael gwaharddiad ar bibelli dwr na chyfyngiadau eraill ar ddwr yng Nghymru am ddeunaw mlynedd bellach, ac yr ydym eisiau gweithio gyda’n gilydd i gynorthwyo i gadw pethau felly,” parhaodd Rhian. Y mae yna fwy o wybodaeth am effeithlonrwydd dwr yn www.dwrcymru.com ac fe allwch hefyd fynd i www.waterwise.org.uk