corner

Newyddion / Datganiadau i’r wasg

DCWW Logo

27/05/2008

Arddangosfa gyhoeddus i roi manylion cynllun buddsoddi dwr gwerth £730,000 yn Abertawe

Y mae trigolion yn ardaloedd Y Sgeti, Fforestfach a’r Cocyd yn Abertawe yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau cynllun buddsoddi gwerth £730,000 gan Dwr Cymru Welsh Water.

 

Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, fe fydd y gwaith yn sicrhau bod cwsmeriaid yn parhau i dderbyn cyflenwad o ddwr yfed o’r ansawdd uchaf yn uniongyrchol i’w tapiau.

 

Fe fydd y cynllun, sy’n golygu adnewyddu 9 cilometr o brif bibellau dwr yn Y Sgeti, Fforestfach a’r Cocyd, yn dechrau ddydd Llun, yr 2ail o Fehefin ac fe fydd wedi’i gwblhau erbyn mis Tachwedd eleni.

 

Fel rhan o’u hymrwymiad parhaus i hysbysu cwsmeriaid ynglyn a datblygiadau, y mae Dwr Cymru Welsh Water yn cynnal arddangosfa gyhoeddus. Fe gynhelir hon ddydd Mercher, y 4ydd o Fehefin rhwng 5.00 y pnawn a 7.00 yr hwyr yn Ysgol Esgob Gore, Heol De La Beche, Sgeti. Fe anfonir llythyrau at drigolion lleol yn eu hysbysu hwynt ynglyn a gwybodaeth yr arddangosfa.

 

Fe ddywedodd rheolwr cyfalaf Dwr Cymru Welsh Water, Peter Childs: “Yr ydym wedi trefnu’r arddangosfa gyhoeddus hon fel y gall y sawl sydd a diddordeb mewn canfod mwy o wybodaeth am y cynllun ddod i weld. Fe fyddwn yn rhoi pecynnau gwybodaeth i bawb yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan y gwaith. Yr ydym yn annog cwsmeriaid i gadw’r wybodaeth hon mewn man diogel er mwyn cyfeirio ati tra bod gwaith yn cael ei wneud yn yr ardal.

 

“Fe hoffem ddiolch i gwsmeriaid o flaen llaw cyn ein bod yn gwneud y gwaith hwn am eu cydweithrediad. Yr ydym yn gobeithio y byddant yn amyneddgar gyda ni tra bod y gwaith buddsoddi hanfodol hwn yn cael ei wneud.”

 

Fe fydd yr arddangosfa yn rhoi manylion cynlluniau ar gyfer y gwaith ac fe fydd yn galluogi pobl leol i drafod y gwaith gydag aelodau tim y prosiect.

 

Drwy gydol y gwaith o gynllunio’r cynllun, y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi cysylltu’n agos gyda chynrychiolwyr Cyngor Dinas Abertawe ac amrywiol gyrff eraill.

 

Fe ychwanegodd Mr Childs, “Fe hoffem sicrhau cwsmeriaid y bydd gwaith o uwchraddio’r prif bibellau dwr yn yr ardal yn cael ei wneud gan darfu cyn lleied a phosibl ar eu cyflenwadau dwr.” Fe fydd y cynllun yn cael ei ddarparu gan Laing O’Rourke, gan weithio gydag United Utilities, ChandlerKBS a phartneriaid eraill i weithredu’r rhaglen adnewyddu prif bibellau dwr, ar ran Dwr Cymru Welsh Water.

 

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi’n hael ac yn gweithio’n galed i sicrhau gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w holl gymunedau yng Nghymru. Y mae’r cwmni yn buddsoddi £1.2 biliwn yn ei rwydwaith dwr a charthffosiaeth rhwng 2005 a 2010. Y mae’n gwmni ‘nid-er-elw’ sydd a’r unig amcan o ddarparu gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w gwsmeriaid. Nid oes gan Dwr Cymru Welsh Water gyfranddalwyr, ac y mae unrhyw elw a wneir yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid, yn ogystal ag er mwyn ei ddychwelyd i gwsmeriaid fel ‘buddrannau’. Y fuddran i gwsmeriaid am 2008/09 yw £21 i bob un cwsmer sy’n derbyn gwasanaethau dwr a dwr gwastraff, fel ei gilydd.