corner

Newyddion / Datganiadau i’r wasg

DCWW Logo

08/05/2008

Y mae ansawdd dwr yn mynd i wella gyda buddsoddiad

Y mae rhaglen fuddsoddi gwerth £19 miliwn mewn ansawdd dwr yfed yng Ngwaith Trin Dwr Court Farm yn mynd i ddechrau, gan ddod a gwell ansawdd yn y cyflenwad i gwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water yn yr ardal.

 

Fe fydd y rhaglen foderneiddio yn y gwaith yn golygu newidiadau i’r broses trin dwr, gan gynnwys cam hidlo ychwanegol, a fydd yn cynorthwyo i sicrhau bod Dwr Cymru Welsh Water yn cyrraedd y safonau tragywydd uwch y mae ar ddwr yfed angen eu bodloni.

 

Fe ddywed Dwr Cymru Welsh Water y bydd y gwelliannau i ddwr yfed yn cael eu darparu drwy osod cyfarpar newydd, a ddaw a gwelliant parhaol i flas y dwr yfed a gyflenwir o’r gwaith.

 

Fe fydd y gwaith, sydd ar hyn o bryd yn cyflenwi dwr yfed i gwsmeriaid i’r dwyrain o Gaerdydd, yn cynnwys trigolion yng Nghasnewydd a Chas-gwent, yn dechrau fis hwn, ac fe fydd yn cael ei ddarparu gan Black & Veatch, Laing O’Rourke, a phartneriaid eraill, ar ran Dwr Cymru Welsh Water.

 

Fe ddywedodd rheolwr asedau Dwr Cymru Welsh Water, Peter Childs: “Y mae hwn yn fuddsoddiad pwysig i’r ardal leol ac fe fydd yn darparu buddion hirdymor i gwsmeriaid.

 

“Fe fydd y gwelliannau yn anad dim yn cael eu cynnwys o fewn terfynau’r safle gwaith trin, ac ni ddylid effeithio ar drigolion a busnesau,” fe ychwanegodd.

 

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi’n sylweddol iawn ac yn gweithio’n galed i sicrhau gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w holl gymunedau yng Nghymru. Y mae’r cwmni’n buddsoddi £1.2 biliwn yn ei rwydwaith dwr a charthffosiaeth rhwng 2005 a 2010.

 

Y mae’n gwmni ‘nid-er-elw’ gyda’r unig amcan o ddarparu gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w gwsmeriaid. Nid oes gan Dwr Cymru Welsh Water gyfranddalwyr, ac y mae unrhyw elw a wneir yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid, yn ogystal ag er mwyn ei ddychwelyd i gwsmeriaid fel ‘buddrannau’. Y fuddran cwsmeriaid ar gyfer 2008/9 yw £21 am bob cwsmer sy’n derbyn gwasanaethau dwr a dwr gwastraff, fel ei gilydd.