Newyddion / Datganiadau i’r wasg |
![]() |
19/05/2008Y mae pobl Y Fflint yn cael eu hannog i ymladd braster
Y mae pobl Y Fflint yn cael eu hannog i gynorthwyo i weddnewid y dref i fod yn ‘barth di-fraster’ er mwyn cynorthwyo i gadw carthffosydd lleol mewn cyflwr penigamp.
Fe ofynnir i bobl leol gael gwared a braster, olew a saim yn gyfrifol er mwyn lleihau’r nifer cynyddol o achosion o rwystrau mewn carthffosydd, a achosir gan wastraff bwyd.
Fe wnaeth ymgyrch ‘Ymwybyddiaeth Draeniau Cymru’ gan Dwr Cymru Welsh Water, a lansiwyd ym mis Hydref ‘llynedd, ofyn i gwsmeriaid feddwl ddwywaith am yr hyn sy’n cael ei ollwng i lawr y sinc, gyda’r neges bod draeniau sydd wedi blocio yn beth drwg i’r amgylchedd ac yn peri llawer o anhwylustod.
Y mae braster sy’n graddol ddatblygu yn rhwydwaith carthffosiaeth Y Fflint hefyd yn achosi problemau gweithredol rheolaidd yng Ngwaith Trin Dwr Gwastraff Y Fflint.
Fe ddywedodd Steve Willis-Culpitt, rheolwr unedau gyda Dwr Cymru Welsh Water: “Y mae’r Fflint yn ardal a phroblem o ran rhwystrau mewn carthffosydd, sydd yn aml yn arwain at lifogydd, llygredd, arogleuon, draeniau, sinciau a thoiledau’n gorlifo, ac yn peri anhwylustod ac annifyrrwch mawr. Drwy annog ein cwsmeriaid i gael gwared a gwastraff coginio yn gyfrifol, yr ydym yn gobeithio lleihau’n aruthrol nifer y draeniau yn yr ardal sy’n cau oherwydd rhwystrau, a achosir dro ar ol tro gan fraster yn graddol ddatblygu yn rhwydwaith carthffosiaeth yr ardal.”
Y mae Is-adran Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Y Fflint yn cefnogi’r ymgyrch, fel yn wir y mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Defnyddwyr Dwr, Cymru, a chorff y diwydiant, sef Water UK.
Y mae hefyd wedi denu diddordeb plant ysgol lleol, gyda chynrychiolwyr oddi wrth Dwr Cymru Welsh Water a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol, John Coles, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Cornist Park i hyrwyddo negeseuon yr ymgyrch i’r disgyblion a dangos iddynt y gellir gwneud bwyd adar o fraster dros ben sydd yn y gegin.
Fe ddywedodd Diane McCrea, Cadeirydd Cyngor y Defnyddwyr Dwr, Cymru: “Y mae draeniau sydd wedi’u cau gan fraster, olew a saim yn rhywbeth y mae modd ei osgoi yn gyfan gwbl, ac eto y maent hefyd yn un o’r achosion pennaf pam bod carthffosydd yn gorlifo. Yr ydym yn cefnogi’r ymgyrch hon bob cam o’r ffordd – y mae’n rhaid bod rhywbeth sy’n lleihau’r risg o garthffosydd yn gorlifo i ddefnyddwyr a busnesau, ac sy’n cadw costau glanhau draeniau rhag codi, yn newyddion da.”
Fe ddywedodd Chris Mills, Cyfarwyddwr, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: “Nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn meddwl am funud am y system garthffosiaeth, ond os yw’r system yn methu a gweithio yn iawn, yr ydym yn sylweddoli’n go fuan faint yr ydym yn dibynnu arni i’n diogelu ni a’n hamgylchedd. Fe allwn ei chynorthwyo hi i wneud ei gwaith drwy’i diogelu hi rhag braster, olew, saim a phlastigion sy’n tagu’r system.”
Y mae gwybodaeth lawn am y ffordd gywir o gael gwared a braster, olew a saim ar gael yn ein pecyn gwybodaeth, sydd hefyd yn cynnwys poster ‘Ie a Na’. Ffoniwch ein llinell frys cyhoeddiadau rhadffon, os gwelwch yn dda, ar 0800 052 0138 am eich copi am ddim o’n pecyn ‘Arferion Rheoli Gorau ar gyfer Allfeydd Arlwyo’. Fe all busnesau, eiddo masnachol ac ysgolion wneud cais i Dwr Cymru Welsh Water am wobr ymarfer gorau ‘Ymwybyddiaeth Draeniau Cymru’ drwy fewngofnodi i www.dwrcymru.com. Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi’n hael ac yn gweithio’n galed i sicrhau gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w holl gymunedau yng Nghymru. Y mae’r cwmni’n buddsoddi £1.2 biliwn yn ei rwydwaith dwr a charthffosiaeth rhwng 2005 a 2010. Y mae’n gwmni ‘nid-er-elw’ sydd a’r unig amcan o ddarparu gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w gwsmeriaid. Nid oes gan Dwr Cymru Welsh Water gyfranddalwyr, ac y mae unrhyw elw a wneir yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid, yn ogystal ag er mwyn dychwelyd buddrannau i gwsmeriaid. Eleni, y fuddran i gwsmeriaid oedd £20 i bob un cwsmer sy’n derbyn gwasanaethau dwr a dwr gwastraff, fel ei gilydd.
|