corner

Newyddion / Datganiadau i’r wasg

DCWW Logo

03/04/2008

DWR CYMRU WELSH WATER YN PENODI CYFARWYDDWR ANWEITHREDOL NEWYDD

Fe wnaeth Dwr Cymru Welsh Water heddiw gyhoeddi bod Robert (Bob) Ayling wedi’i benodi’n gyfarwyddwr anweithredol Dwr Cymru Welsh Water a’r cwmni sy’n rhiant-gwmni iddo sef Glas Cymru, ac fe ddaw hyn i rym o’r 3ydd o Ebrill 2008.

 

Wrth groesawu Bob i’r Bwrdd, fe ddywedodd yr Arglwydd Burns, y Cadeirydd: “Yr ydym yn falch iawn bod Bob yn ymuno a’r Bwrdd. Fe ddaw a llawer iawn o brofiad perthnasol gydag ef, yn cynnwys ei bymtheng mlynedd gyda chwmni British Airways, ble’r oedd yn Brif Weithredwr tan 2000.

 

Fe ddywedodd Bob Ayling, “Yr wyf wedi bod yn gwsmer i Dwr Cymru Welsh Water ers dros bum mlynedd ar hugain, ac fel cyfarwyddwr anweithredol yr wyf yn gobeithio gallu gwneud cyfraniad i barhad llwyddiant y cwmni. Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn parhau’n unigryw yn y ffaith ei fod ym mherchenogaeth Glas Cymru, cwmni ‘nid-er-elw’, ac yn cael ei weithredu’n gyfan gwbl er budd ei gwsmeriaid. Yr wyf yn gwybod bod Dwr Cymru Welsh Water yn dymuno cael eu gweld gan eu cwsmeriaid fel y cwmni dwr gorau un, ac fe fyddaf yn dymuno cyfrannu i hyn o’m profiad fy hun o gynnal sefydliadau gwasanaethau cwsmeriaid.

 

Nodiadau ar gyfer Golygyddion: 1. Fe ffurfiwyd Glas Cymru ym mis Ebrill 2000 gyda’r unig ddiben o gaffael Dwr Cymru Welsh Water. Y mae’n ‘gwmni cyfyngedig trwy warant’, a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmniau 1985. Nid oes gan Glas Cymru gyfranddalwyr. Yn hytrach, y mae aelodau yn ymgymryd a rol rheolaeth gorfforaethol bwysig ond nid ydynt yn derbyn buddrannau ac nid oes ganddynt ychwaith unrhyw fuddiant ariannol arall yn y Cwmni. Y mae’r strwythur corfforaethol hwn yn sicrhau bod yr holl wargedion ariannol a gynhyrchir yn cael eu cadw a’u hail-fuddsoddi er budd a lles Dwr Cymru Welsh Water a’u cwsmeriaid.

 

2. Y mae cyfansoddiad Glas Cymru yn cyfyngu’n gaeth ar ei ddiben i’r diben o ariannu asedau dwr yn ardal dylanwad Dwr Welsh Water, a rheoli busnes Dwr Cymru Welsh Water fel bod gwasanaethau dwr a charthffosiaeth o ansawdd uchel yn cael eu darparu ar y gost leiaf i’r cymunedau a wasanaethir gan Dwr Cymru Welsh Water. Ni all Glas Cymru arallgyfeirio i weithgareddau masnachol anghysylltiedig eraill.

 

3. Y mae Bob Ayling, (61), yn Gadeirydd Holidaybreak ccc, yn Is-gadeirydd Dyson Limited, ac yn Gadeirydd y Ganolfan Datrys Anghydfod Rhyngwladol. Yr oedd ef yn Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr British Airways rhwng 1993 a 2000, ac yn gyn-gyfarwyddwr y grwp yswiriant, y Royal & SunAlliance Insurance Group. Yn gyfreithiwr yn ol ei broffesiwn, yn gynharach yn ei yrfa fe dreuliodd ugain mlynedd yn Ninas Llundain ac fel uwch-gynghorydd cyfreithiol i’r llywodraeth yn yr Adran Masnach a Diwydiant.