Newyddion / Datganiadau i’r wasg |
![]() |
21/02/2008‘Buddran’ o £21 i gwsmeriaid Dwr Cymru Welsh WaterFe fydd mwy na miliwn o gwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water yn derbyn eu biliau dwr a charthffosiaeth blynyddol o’r wythnos hon - ac fe fyddant yn cynnwys ‘buddran’ o £21, a wneir yn bosibl gan effeithlonrwydd cynyddol a nerth ariannol y cwmni.
Fe ddangosir y ‘fuddran i gwsmeriaid’ fel disgownt yn y bil i gwsmeriaid sy’n derbyn gwasanaethau dwr a charthffosiaeth*. Hon yw’r chweched fuddran a’r un fwyaf a wnaed ers i Dwr Cymru Welsh Water ddod o dan berchenogaeth Glas Cymru, i’w gynnal fel cwmni ‘nid-er-elw’.
Ni restrir Dwr Cymru Welsh Water ar y Gyfnewidfa Stoc ac nid oes ganddo gyfranddalwyr, gan alluogi gwargedion ariannol i gael eu hail-fuddsoddi mewn gwella gwasanaethau a’u dychwelyd i gwsmeriaid drwy gyfrwng y fuddran. Ers i Glas Cymru gaffael Dwr Cymru Welsh Water yn 2001, y mae’r cwmni wedi tyfu mewn nerth ariannol - gyda’i ddyled i gynnal y busnes wedi gostwng o 93% i 73% o werth ei asedau.
“Yr ydym yn falch o fod wedi cynyddu’r fuddran i gwsmeriaid eto eleni,” meddai cyfarwyddwr cyllid Glas Cymru, Chris Jones. “Yr ydym yn gwmni gyda’r unig ddiben o ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i’n cwsmeriaid. Yr ydym yn falch bod ein buddsoddiad parhaus wedi gwella’n enfawr lefelau’r gwasanaeth dros y saith mlynedd diwethaf, ac yr ydym yn awr yn un o’r cwmnïau dwr sy’n gyson yn perfformio orau yng Nghymru a Lloegr.
“Yr ydym yn gwella effeithlonrwydd ac yn lleihau’n costau, ac y mae ein nerth ariannol wedi tyfu’n gyson, gan ein galluogi ni i gyllido’n buddsoddiad yn rhatach. Y canlyniad yw y gallwn ni ddychwelyd mwy o arian i gwsmeriaid drwy gyfrwng ein ‘buddran i gwsmeriaid’. Y ni yw’r unig gwmni dwr i wneud hyn. Fe allwn ni hefyd ariannu gwelliannau ychwanegol i wasanaethau i gwsmeriaid, uwchben ac uwchlaw’r hyn y cytunwyd arno gyda rheolydd y diwydiant yn ein cynlluniau pum mlynedd.”
Fe wnaeth Mr Jones barhau, “Yr ydym yn anfon un bil i’r rhan fwyaf o’n cwsmeriaid bob blwyddyn, ac y mae hynny’n golygu amser prysur iawn i’n staff bilio a gwasanaethau i gwsmeriaid. Os bydd ar gwsmeriaid angen ein galw, cofiwch, os gwelwch yn dda, mai hwn yw’n hamser prysuraf o’r flwyddyn, ond yr ydym bob amser yn anelu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid drwy gydol y flwyddyn.”
Diwedd
Nodyn: *(Fe fydd buddran o £10.50 yn cael ei rhoi i gwsmeriaid sy’n derbyn ond un gwasanaeth).
Fe ellir gweld darn o newyddion ar fideo yn egluro’r fuddran i gwsmeriaid yn www.dwrcymru.com
Ymholiadau i swyddfa gwasg Dwr Cymru Welsh Water ar 029 20556140.
|