Newyddion / Datganiadau i’r wasg |
![]() |
22/05/2008Cyhoeddi enwau enillwyr y Wobr Glan Mor
Mae pedwar deg a dau o draethau Cymru a phum marina ar y rhestr o leoliadau mewn 36 o wledydd yn y byd a fydd yn cael cydnabyddiaeth am fedru cwrdd a’r meini prawf llym sydd yn ymwneud a’r dwr ymdrochi ac a phethau ar y tir, gan ennill statws y Faner Las.
Mae tri o’r traethau wedi llwyddo am y tro cyntaf, ac yn eu mysg mae traeth Aberafan, sydd yn dair milltir o hyd, ac a oedd yn boblogaidd iawn yn y 60au a’r 70au ymysg glowyr De Cymru a’u teuluoedd. Aeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot ati i drefnu rhaglen eang o waith adfer ar y traeth, i nodi’r Mileniwm, a chanlyniad eu buddsoddiad fu iddo gael ei gynnwys ymysg prif gyrchfannau hamdden y byd.
Caiff y traethau eu beirniadu yn ol 29 o feini prawf sydd yn cynnwys ansawdd dwr o’r safon uchaf, rheoli sbwriel, darparu gwybodaeth, rheoli cwn a rheoli amgylcheddol cynaliadwy. Bydd y marinas wedi diwallu gofynion 16 o feini prawf sydd yn cynnwys cyfleusterau derbyn ar gyfer gwastraff peryglus, cyfarpar achub bywyd digonol ac ymrwymiad i ddiogelu eu hamgylchedd lleol.
Ychwanegodd: “Rydym yn dibynnu llawer ar y diwydiant twristiaeth ac os ydym am gwrdd a’r safonau uchel sy’n ddisgwyliedig gan bawb sydd yn ymweld a’n traethau rhaid i ni i gyd yng Nghymru chwarae ein rhan. Mae’r Cynghorau a’r cwmnïau gwasanaethau wedi buddsoddi miliynau o bunnau ac rydym yn apelio ar y cyhoedd i wneud eu cyfraniad drwy ofalu na fyddant yn gadael dim ond ol traed ar hyd ein 750 o filltiroedd o arfordir.”
Meddai Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: "Rwy’n falch iawn i allu cyhoeddi gwobr baner las cyntaf ar gyfer traeth Aberafan, sydd yn brawf o waith adnewyddu Cyngor Castell Nedd Port Talbot. Mae hefyd yn dda gweld Bae yr Eglwys, Ynys Mon a thraeth Trefdraeth, Sir Benfro yn derbyn anrhydedd y Faner Las am y tro cyntaf. Unwaith eto, mae’r canlyniadau hyn yn dangos ansawdd amgylchedd naturiol Cymru, sy’n adnodd rhagorol i bawb yng Nghymru ac ymwelwyr ei fwynhau. Mae’r gwaith pwysig a wneir i sicrhau y safonau uchaf mewn dwr ymdrochi yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella mynediad i gefn gwlad. Dwi’n awyddus iawn i annog defnydd ehangach o amgylchedd arbennig Cymru ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol."
Bydd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, yn cyflawni seremoni codi’r Faner Las ar Draeth Aberafan, Ffordd y Dywysoges Margaret, Port Talbot ddydd Iau, Mai 22ain. Cyflwynir hi gan Katherine Hughes, cadeirydd Cadwch Gymru’n Daclus am 10 y bore. Bydd cynrychiolwyr o asiantaethau amlwg ac awdurdodau lleol yn bresennol.
|