| |
Cylchlythyr Grŵp SWEAR (Dileu a Lleihau Dŵr Wyneb) Dŵr Cymru yw hwn. Ei nod yw rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am faterion dŵr wyneb ar draws pob rhan o fusnes Dŵr Cymru - rheoleiddio, cynllunio a’r amgylchedd - cynnydd mewn perthynas â’i Strategaeth ar gyfer Rheoli Dŵr Wyneb a’r astudiaethau peilot o ran Draenio Cynaliadwy.
Yn y trydydd rhifyn hwn, fe glywch chi am lwyddiant materol cyntaf Man Gwyrdd Cymru, ac fe gewch chi’r newyddion diweddaraf am gwblhau ail ran y Strategaeth Rheoli Dŵr Wyneb, am Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ac am ‘PREPARED: Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd’ - project sy’n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, a Dŵr Cymru yw’r unig gwmni dŵr a charthffosiaeth ym Mhrydain sy’n cymryd rhan ynddo.
Yn y rhifyn nesaf o SWEARwords, bydd:
 |
Newyddion cyffrous am sioe pen-ffordd Man Gwyrdd |
 |
Arbrawf unigryw sy’n gosod unedau casglu glaw arbennig mewn adeiladau domestig |
 |
Cynllun Dŵr Cymru i gyflawni’r rhaglen AMP5 mewn perthynas â materion dŵr wyneb. |
|
|
Llwyddiant cyntaf Man Gwyrdd Cymru – yn Asda
Gall ein menter Man Gwyrdd Cymru hawlio ei llwyddiant materol cyntaf – a hynny yng Nghasnewydd. Mae’r llwyddiant hwn yn dangos sut y gellir cyflawni pethau mawr trwy feddwl mewn ffordd newydd a gweithio mewn partneriaeth â datblygwyr a’r awdurdod lleol.
Pan gyhoeddodd Asda ei fod yn bwriadu agor siop newydd yng Nghasnewydd, roedd y bobl leol yn edrych ymlaen at groesawu’r 350 o swyddi newydd yr oedd Asda’n addo eu creu. Ond roedd ein cyd-weithwyr yn Dŵr Cymru’n gweld y datblygiad newydd fel cyfle - i gadw’r dŵr glaw oedd yn disgyn ar do’r adeilad newydd allan o’r rhwydwaith o garthffosydd cyfunol, a gwella capasiti’r system drwy hynny.
Aeth pawb ati i gydweithio er mwyn dod o hyd i ateb a fyddai’n cadw’r dŵr ffo allan o’r carthffosydd cyhoeddus. Byddai hyn yn galluogi i’r gwrthwynebiadau i’r datblygiad gael eu rhoi i’r neilltu. A byddai hyn, yn ei dro, yn galluogi Asda i fwrw ymlaen â’r gwaith o adeiladu’r archfarchnad.
Trwy gydweithio ag Asda a Chyngor Dinas Casnewydd, daeth ein cydweithwyr yn yr NDC o hyd i hen garthffos dŵr wyneb, oedd yng ngofal yr awdurdod lleol, ger safle’r archfarchnad arfaethedig. Ar ôl tipyn o drafod, cytunwyd taw’r ateb gorau oedd i Asda adeiladu gorsaf bwmpio a charthffosydd arbennig i bwmpio’r dŵr wyneb o’r safle i’r garthffos dŵr wyneb. Nawr mae’r dŵr glaw yn llifo’n syth nôl i Afon Wysg, gan leihau’r risg o orlifo yn y rhwydwaith o garthffosydd cyhoeddus, a chan leihau’r gost o bwmpio a thrin y dŵr glaw.
Erbyn hyn mae Dŵr Cymru wedi cytuno i fabwysiadu’r garthffos gan Gyngor Dinas Casnewydd, ac mae’r broses fabwysiadu ffurfiol wedi cychwyn.
Ar adegau brig, byddai 410 litr o ddŵr glaw yr eiliad yn llifo o do’r adeilad, ac mae’r newid bychan hwn yn y cynlluniau wedi cadw llif, a fyddai gyfwerth â 100 llond bath o ddŵr y funud, draw o’r system dŵr gwastraff yn yr ardal. Ac yn y frwydr i achub cymaint o ddŵr glaw â phosibl rhag mynd i’r rhwydwaith carthffosydd cyfunol, mae pob peth bach yn helpu.
|
|