Stop Cyn Creu Bloc

Stop Cyn Creu Bloc

Mae taflu eitemau fel ffyn bach cotwm, weips glanhau, ac hancesi papur trwchus i’ch tŷ bach; ac arllwys braster, olew a saim i’ch sinc yn gallu achosi problemau mawr. Mae’n gallu achosi blociadau yn eich ardal, llifogydd carthion yn eich cymuned, a llygredd yn lleol.

Mae Dŵr Cymru yn gwmni nid er elw ac ryn ni’n awyddus iawn i weithio gyda’n cwsmeriaid er mwyn lleihau cost blociadau – er budd pawb.

Dros y misoedd nesaf mae Dŵr Cymru yn mynd i fod yn gweithio gyda chi er mwyn rhoi Stop ar y Bloc yn eich ardal chi. Cadwch lygad yn agored am bosteri a gwybodaeth yn lleol. Ryn ni hefyd yn gweithio gyda Capital FM er mwyn mynd â’n Bloc Harddwch arbennig allan i’r gymuned.  Bydd y digwyddiadau hyn yn gyfle i chi ddysgu mwy am ein hymgyrch – a sut mae pethau fel weips harddwch, peli gwlân cotwm a ffyn bach cotwm yn chosi blociadau mawr. Byddant hefyd yn cael cyfle i fwynhau triniaeth harddwch 15 munud am ddim. Dysgwch am daith ein Bloc Harddwch nawr.

Cliciwch ar y botymau isod i weld be fedrwch chi ei wneud yn eich cartref, gweithle neu fusnes i helpu lleihau blociadau, llifogydd carthion a llygredd yn eich ardal chi.

Y broblem

Mae’r pibellau carthffosiaeth ryn ni’n gyfrifol amdanynt yn ymestyn dros 30,000km – sy’n ddigon pell i ymestyn o’r fan hon i Awstralia ac yn ôl. Mae gofalu am ein rhwydwaith yn hanfodol i iechyd y cyhoedd yn ogystal â diogelu ein hafonydd a’n harfordir rhag llygredd.

Mae hefyd yn flaenoriaeth i’n tîm. Ryn ni’n delio â dros 2,000 o flociadau bob mis ac yn llwyddo i atal llifogydd neu lygredd mewn 99% o achosion. Ond mae bob bloc yn un yn ormod ac ryn ni’n awyddus i leihau effaith negyddol hyn ar ein cwsmeriaid a’r byd o’n cwmpas.

Helpwch ni i annog pobl i stopio taflu gwastraff diangen yn ein rhwydwaith. Gyda’n gilydd gallwn roi stop ar y bloc – a’r holl drafferth a ddaw yn sgîl y broblem hon – yn eich cymuned chi.

Yr ateb.

Mae’n syml. Ni ddylid fflysio unrhywbeth oni bai am wastraff dynol a phapur sychu cyffredin i lawr y tŷ bach. Mae unrhywbeth arall, o ffyn cotwm bach i beli gwlân cotwm, weips glanhau i weips lliw haul, yn gallu blocio ein system. Rhowch eitemau fel hyn mewn bag, os oes angen gwneud hynny, yna rhowch y bag yn y bin. Ond ein prif gyngor i chi yw ceisiwch gynhyrchu llai o wastraff yn y lle cyntaf.

Mae unrhywbeth rych chi’n ei arllwys i lawr drwy blwg eich sinc yn gallu cyrraedd ein pibellau. Mae braster, olew a saim yn achosi problemau mawr i ni. Mae un diferyn yn troi’n ddwsin, yn caledi’n ein rhwydwaith, ac yn blocio ein pibellau. Peidiwch arllwys unrhywbeth oni bai am ddŵr brwnt ac ychydig bach o sebon i lawr drwy’r plwg.

Lawrlwythwch ein posteri a’n taflenni rhad ac am ddim: