Ar gyfartaledd. rydyn ni’n cyflenwi dros 900 miliwn litr o ddŵr y dydd i gartrefi a busnesau yn ein hardal. Mae rheolaeth dynn ar gyflenwadau dŵr oherwydd eu pwysigrwydd yn nhermau iechyd y cyhoedd.
Mae llawer o’n gwaith yn destun gofynion statudol o dan reolaeth yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am eich cyflenwad dŵr.
Dyma atebion i rai cwestiynau cyffredin am eich cyflenwad dŵr.
C. Does dim dŵr gen i, beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych chi newydd symud i mewn i adeilad neu os oes gwaith wedi cael ei wneud yno, sicrhewch nad yw’r stopfalf mewnol / allanol ar gau.
Ydych chi wedi cael cerdyn gennym yn eich hysbysu am waith cynnal a chadw hanfodol a fydd yn tarfu ar eich cyflenwad? Am gymorth pellach ffoniwch 0800 052 0130. Cyn ffonio, cofiwch edrych i weld a oes rhywun yn gweithio yn y stryd a allai fod wedi tarfu ar eich cyflenwad, a holi eich cymdogion i weld a ydynt wedi sylwi ar rywbeth tebyg – diolch.
C. Nid oes llawer o ddŵr yn dod allan o’r tap.
Os ydych wedi bod yn gwneud gwaith ar yr adeilad, sicrhewch nad yw’r stopfalf mewnol / allanol ar gau.
Efallai bod dŵr yn gollwng o’r bibell gyflenwi a bod angen ei thrwsio. Chwiliwch am arwyddion o leithder neu bydredd ac am fannau llaith ar lwybrau a lawntiau. Os na allwch chi ddatrys y broblem, neu os oes angen cyngor neu gymorth pellach arnoch, ffoniwch 0800 052 0130.
C. A fyddwch yn rhoi rhybudd cyn diffodd y cyflenwad dŵr?
Byddwn yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi os oes angen diffodd eich cyflenwad am dros bedair awr i wneud gwaith cynlluniedig, a byddwn yn adfer eich cyflenwad erbyn yr amser a nodir ar yr hysbysiad.
Mewn argyfwng, byddwn yn defnyddio corn siarad er mwyn ceisio hysbysu pawb yn yr ardal. Os ydych chi’n drwm eich clyw, efallai byddwch am gofrestru ar gyfer ein gwasanaethau ychwanegol. Cliciwch yma i ddysgu mwy.
C. Faint o rybudd rowch chi cyn diffodd y cyflenwad dŵr?
Byddwn yn rhoi 48 awr o rybudd ysgrifenedig i chi os oes angen gwneud gwaith cynlluniedig a fydd yn tarfu ar eich cyflenwad am dros 4 awr. Am gyngor a chymorth pellach ffoniwch 0800 052 0130. i ofyn am wybodaeth bellach. Gallech elwa o fod ar ein cofrestr gwasanaethau ychwanegol hefyd.
C. Rwy’n dioddef o gyflwr meddygol sy’n gofyn am gyflenwad dŵr cyson. Beth ddylwn i ei wneud?
Os nad oes dŵr gennych a’ch bod yn dioddef o gyflwr meddygol sydd angen cyflenwad dŵr cyson, fel dialysis yn y cartref, ffoniwch 0800 052 0130 i ofyn am wybodaeth bellach. Gallech elwa o fod ar ein cofrestr gwasanaethau ychwanegol hefyd. Cliciwch yma am gyngor a chymorth pellach.
C. Stopiodd y cyflenwad dŵr ac nawr mae’r dŵr tap yn fudr?
Mae hyn yn digwydd os oes rhywbeth yn aflonyddu’r gwaddod ar waelod y pibellau. Dylai glirio ar ôl rhedeg y tap am ychydig funudau. Os na fydd yn clirio neu os oes arnoch angen cyngor a chymorth pellach, ffoniwch 0800 052 0130.
C. Mae’r cyflenwad wedi ailgychwyn, ond mae’r dŵr yn gymylog?
Mae hyn yn digwydd os oes aer yn y dŵr. Mae’n ddiniwed ac mae’r dŵr yn iawn i’w yfed. Os llenwch chi wydr â dŵr, dylai glirio o’r gwaelod i fyny. Fodd bynnag, os yw’r broblem yn para mwy na 24 awr neu os oes arnoch angen cyngor a chymorth pellach, ffoniwch 0800 052 0130.
Q.Oes grantiau ar gael i adnewyddu pibellau plwm?
Nac oes, nid ydym yn cynnig grantiau i adnewyddu hen bibellau plwm. Fodd bynnag, mae’n bosibl bydd eich cyngor lleol yn gallu cynnig cymorth.