Cadw Cymru’n Gynnes
Stopiwch eich pibelli rhag rhewi y gaeaf hwn
Mae tywydd oer yn golygu fod eich pibellau dŵr yn medru byrstio – gan arwain at gost a thrafferth di-angen i chi.
Hawdd a rhad
Mae Dŵr Cymru wedi cydweithio gydag Aqualogic i ddarparu set lapio pibellau i’n cwsmeriaid am £5 yn unig (cost arferol £12.60.) Mae’r set yn helpu gwarchod pibellau dros y gaeaf.
Cliciwch yma i archebu ar-lein. Bydd angen nodi eich cod post er mwyn gweld os ydych yn gymwys i gael y disgownt. Gallwch hefyd ein ffonio ar 0844 324 0844.
Beth arall alla’i ei wneud?
- Nodwch leoliad eich stop tap rhag ofn y bydd argyfwng (yn aml, mae hwn dan sinc y gegin.)
- Lapiwch neu lagiwch unrhyw bibelli a allai rewi ac ystyriwch inswleiddio eich atig.
- Cadwch y gwres ymlaen yn isel os yn gadael adeilad yn wag
- Cadwch lygad am bibelli wedi’u rhewi, wedi byrstio neu sy’n gollwng.
Beth ryn ni wedi’i wneud?
- Rydyn ni wedi rhoi mesurau yn eu lle yn ein adeiladau ac yn ein gweithfeydd trin dŵr sy’n golygu ein bod yn gallu ymdopi â thywydd mor oer â -20C.
- Mae ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid yn gallu delio â nifer uchel o alwadau os bydd tywydd caled iawn dros y gaeaf.
- Os bydd ein pibellau’n byrstio dros y gaeaf, mae gennym dîm o 400 o weithwyr rheoli gollyngiadau ar gael i sicrhau ein bod yn gallu cyflenwi dŵr 24/7.
Beth i’w wneud NAWR cyn ei bod hi’n rhy hwyr!
Cliciwch yma i archebu pecyn lapio pibellau ar-lein. Bydd angen nodi eich cod post er mwyn gweld os ydych yn gymwys i gael y disgownt. Gallwch hefyd ein ffonio ni ar 0844 324 0844.
Cliciwch yma i wylio ein fideo ‘Show me how to lag’ (gydag isdeitlau Cymraeg.)
Cliciwch yma am gyngor pellach ar sut i baratoi ar gyfer y gaeaf.