Pam mae fy mil yn uwch na’r disgwyl?
Os ydych chi wedi cael bil sy’n uwch na’r disgwyl, efallai y gall y rhestr isod eich helpu i ganfod pam.
Mae yna nifer o resymau pam y gallai eich bil fod yn uchel:
- Roedd eich bil diwethaf yn seiliedig ar ddarlleniad amcanestynedig oedd yn rhy isel, felly mae eich bil diweddaraf yn cynnwys unrhyw daliadau na chafodd eu codi yn y bil diwethaf.
Dyma esiampl:
Defnydd cyfartalog fesul bil - 45 metr ciwbig (m3) neu 90m3 ar gyfer dau fil.
| Bil |
Eich defnydd fesul bil |
|
| Y bil diwethaf |
35m3 (amcangyfrif) |
|
| Y bil diweddaraf |
55m3 (go iawn) |
|
| Cyfanswm |
90m3 |
|
Dyma esiampl:
| Bil |
Eich defnydd fesul bil |
|
| Y bil diwethaf |
26m3 mewn 150 diwrnod |
|
| Latest bill |
33m3 mewn 193 diwrnod |
|
Dyma ambell i esiampl:
- Rydych chi wedi cael babi.
- Mae ymwelwyr wedi bod yn aros gyda chi.
- Mae ffrind neu berthynas wedi symud i fyw gyda chi.
Rhesymau eraill pam y gallai’ch bil fod yn uwch na’r disgwyl...
-
Mae tap yn diferu yn eich cartref. Mae hyn yn gallu gwastraffu o leiaf 130 litr y dydd – neu tua £19 y flwyddyn!
- Rydych chi wedi bod yn defnyddio mwy o ddŵr nag arfer wrth wneud gwaith addurno neu ailwampio.
-
Rydych chi wedi bod yn defnyddio taenellwr neu bibell ddŵr yn amlach oherwydd tywydd sych. Gall taenellwr dŵr ddefnyddio hyd at 1000 litr yr awr, sef yr un faint ag y mae teulu o bedwar yn ei ddefnyddio mewn 48 awr.
-
Mae gennych beiriant sy’n gollwng dŵr e.e. peiriant golchi neu fwyler.
-
Mae un o’r pibellau rydych chi’n gyfrifol amdani yn gollwng dŵr.
Sut mae mynd ati i ganfod a oes ddŵr yn gollwng?
Os ydych chi’n poeni bod dŵr yn gollwng yn rhywle yn eich cartref, mae dau brawf rhwydd y gallwch eu gwneud (rhaid i chi wneud y ddau). Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
Prawf Dros Nos 1:
-
Diffoddwch y stopfalf yn eich cartref.
-
Darllenwch y mesurydd.
-
Peidiwch ag agor y stopfalf eto tan y bore.
-
Darllenwch y mesurydd eto yn y bore.
-
Agorwch y stopfalf eto.
Prawf Dros Nos 2:
-
Peidiwch â diffodd y stopfalf y tro hwn.
-
Darllenwch y mesurydd cyn mynd i’r gwely.
-
Peidiwch â defnyddio unrhyw ddŵr ar ôl darllen y mesurydd.
-
Darllenwch y mesurydd eto yn y bore.
Beth wnaethoch chi ei ganfod?
-
Prawf Dros Nos 2 - Os newidiodd eich darlleniad heb i chi ddefnyddio unrhyw ddŵr, mae’n debyg bod dŵr gollwng yn rhywle yn eich cartref. Galwch blymwr i chwilio am achos y broblem a’i drwsio, a chi fydd yn gorfod talu am hyn. Os ydych chi’n rhentu’r eiddo, dylech gysylltu â’ch landlord.
Os na newidiodd y darlleniadau yn y naill brawf na’r llall, nid oes dŵr yn gollwng ar eich cyflenwad dŵr nac yn eich eiddo.