Newid i fesurydd

Os yw eich tâl sefydlog anfesuredig yn uchel, os nad ydych chi’n defnyddio llawer o ddŵr neu os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun, gallech chi arbed arian trwy ofyn i ni osod mesurydd ar eich cyflenwad. Mae llawer o’n cwsmeriaid wedi newid i fesurydd ddŵr yn barod, ac wedi canfod ei fod o fudd iddynt.


Dyma restr o fanteision newid i fesurydd dŵr:

  • Nid oes angen talu dim i osod mesurydd (cwsmeriaid domestig yn unig).
  • Bydd gennych well rheolaeth dros eich bil dŵr. Byddwn ni’n eich bilio chi ar sail tâl gwasanaeth sefydlog plws tâl am y dŵr rydych chi wedi ei ddefnyddio. Felly po leiaf o ddŵr y byddwch chi’n ei ddefnyddio, po leiaf fydd eich bil.
  • Gallech chi arbed arian am y gallai’ch bil fod yn is na’ch bil anfesuredig.
  • Mae’n helpu’r amgylchedd, am fod cwsmeriaid sy’n cael eu bilio ar sail fesuredig yn tueddu i ddefnyddio llai o ddŵr.
  • Bydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon.
  • Os nad ydych chi’n fodlon ar eich mesurydd dŵr, gallwch newid nôl i’ch tâl anfesuredig cyn pen 12 mis ar ôl dyddiad gosod y mesurydd.

Taliadau mesuredig

Mae’r taliadau mesuredig yn seiliedig ar dâl gwasanaeth sefydlog plws tâl am faint o ddŵr rydych chi wedi ei ddefnyddio. Os byddwch chi’n dewis cael mesurydd dŵr, byddwn ni’n anfon bil atoch bob chwe mis (bydd pa fisoedd yn dibynnu pryd rydyn ni’n darllen y mesuryddion yn eich ardal). Mae hyn yn golygu na chewch chi’ch bil anfesuredig blynyddol mwyach. Darllenwch ragor am daliadau mesuredig.


Faint o ddŵr ydych chi’n ei ddefnyddio?

Cyn penderfynu cael mesurydd dŵr, efallai y byddai’n werth cyfrif faint o waith rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio yn dibynnu ar nifer o ffactorau fel:

  • Y nifer o bobl sy’n byw yn eich eiddo.
  • Pa mor aml y cewch chi ymwelwyr i aros gyda chi.
  • Math a nifer y peiriannau sy’n defnyddio dŵr yn eich cartref (e.e. a oes gennych chi gawod pŵer sy’n defnyddio mwy o ddŵr na chawod safonol/trydan?).
  • Sut rydych chi’n defnyddio dŵr (e.e. a ydych chi’n defnyddio taenellwr neu bibell ddŵr i ddyfrio’r ardd? Ydych chi’n tueddu i gael bath yn hytrach na chawod?).

Gallai ein taflen archwiliad dŵr (cartrefi) roi gwybodaeth i chi am eich defnydd nodweddiadol o ddŵr. Cewch ddefnyddio’r tabl ar dudalen 5 i gyfrif eich defnydd cyfartalog y pen, y dydd.

Neu gallwch gyfrifo’ch defnydd trwy ddefnyddio cyfrifiannell defnydd dŵr y Cyngor Defnyddwyr Dŵr neu uswitch


Sut i wneud cais am fesurydd

Os hoffech chi gael mesurydd


Cam 1

Llenwch ein harolwg gwneud cais am fesuryddar lein.


Cam 2

Byddwn ni’n anfon ffurflen gais o’r enw Hysbysiad Tâl Mesuredig atoch cyn pen 14 diwrnod ar ôl i chi gwblhau cam 1.


Cam 3

Os penderfynwch chi gael mesurydd, dylech lofnodi’r ffurflen gais a’i dychwelyd i ni. Byddwn yn gosod mesurydd cyn pen 3 mis ar ôl i’ch ffurflen gais gyflawn ddod i law.


Cam 4

Bydd ein contractwr yn cysylltu â chi dros y ffôn neu trwy lythyr i drefnu apwyntiad i ymweld â’ch eiddo.


Cam 5

Bydd y contractwr yn ymweld â chi i weld a oes modd gosod mesurydd ai peidio.


Cam 6

Os nad oes modd gosod y mesurydd ar y diwrnod hwnnw, byddan nhw’n trefnu i ddod nôl ar ddiwrnod arall.

 

Dylech nodi y bydd gofyn i chi dalu’ch taliadau anfesuredig hyd at ddiwrnod gosod y mesurydd. Mae’n bwysig felly eich bod chi’n cadw at eich cynllun talu tra’ch bod chi’n aros i ni osod eich mesurydd.

Cyn pen mis ar ôl gosod y mesurydd, byddwn ni’n diweddaru eich cyfrif dŵr ac yn anfon cadarnhad ysgrifenedig am unrhyw addasiadau sydd eu hangen. Nid oes angen i chi gysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwn.