Eich Mesurydd Dŵr
Os ydych chi’n ystyried cael mesurydd neu os oes mesurydd gennych eisoes, mae’r adran hon yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am fesuryddion dŵr.
Ydych chi’n ystyried cael mesurydd?
Darllenwch ein tudalen newid i fesurydd. Mae’n rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i benderfynu ai mesurydd dŵr yw’r peth gorau i chi. Mae llawer o gwsmeriaid eisoes wedi newid i fesurydd ddŵr, ac wedi canfod ei fod yn fuddiol.
Wedi penderfynu’n barod? Cewch wneud cais am fesurydd ar lein trwy lenwi ein ffurflen gais am fesurydd.
Os oes mesurydd gennych chi’n barod...
Os ydych chi wedi cael bil amcanestynedig neu os yw’r person sy’n darllen mesuryddion ar ein rhan wedi gadael cerdyn, y ffordd rwyddaf i chi anfon eich darlleniad yw trwy ddefnyddio ein ffurflen cyflwyno darlleniad.
Efallai y bydd ein tudalen sut i ddarllen y mesurydd o gymorth i chi hefyd.