Yma i Helpu
Rydyn ni’n deall bod sefyllfaoedd ac anghenion pobl yn amrywio, a dyma pam ein bod ni’n cynnig ein gwasanaeth ‘Yma i Helpu’. Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu cwsmeriaid sy’n anabl, yn oedrannus, sy’n dioddef anhwylderau meddygol neu sydd ag anawsterau dysgu.
Cewch gofrestru am ddim ar gyfer y gwasanaeth ‘Yma i Helpu’ a theilwra’r gwasanaeth at eich anghenion penodol chi. Dyma restr o’r gwasanaethau sydd ar gael.
Os ydych chi’n ddall neu os oes nam ar eich golwg
Gallwn ni ddarparu biliau a thaflenni mewn:
- Print bras
- Braille
- Ar dâp sain/CD/MP3
Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw
- Cewch ddefnyddio ein gwasanaeth cyfnewid testun ar Ffôn: 18002 + y rhif rydych chi am ei ffonio.
Ffôn testun: 18001 + y rhif rydych chi am ei ffonio
.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd darllen y mesurydd oherwydd anabledd, gallwn ni...
- Ddarllen eich mesurydd yn amlach nag arfer (bob tri mis)
- Symud y mesurydd yn rhad ac am ddim (o dan rhai amgylchiadau) fel ei bod hi’n haws i chi ei ddarllen
Os oes gennych anhwylder meddygol ac na allwch chi fod heb ddŵr, gallwn ni...
- Roi gwybod i chi os oes cynlluniau i ddiffodd eich cyflenwad dŵr a
- Gwneud trefniadau eraill ar eich cyfer e.e. darparu dŵr potel
Gallwch atal galwyr ffug trwy...
- Enwebu cymydog i ddilysu’r person sy’n galw yn eich cartref (os na allwch chi wneud hynny)
- Defnyddio ein cynllun cyfrineiriau
Gallwch gael rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwyster yn ein llyfryn Yma i Helpu..
Oes diddordeb gennych? Cofrestrwch ar gyfer ein gwasanaethau ‘Yma i Helpu’ trwy:
- Opsiwn 1 - Argraffu a llenwi’r ffurflen gais Yma i Helpu a’i hanfon atom ni yn y cyfeiriad hwn: Dŵr Cymru, Rhadbost SWC 5253, Caerdydd CF3 5GY.
- Opsiwn 2 - Ein ffonio ni ar 0800 052 0138 rhwng 9am a 5pm dydd Llun i ddydd Gwener i ofyn am gael copi o’r ffurflen gais Yma i Helpu trwy’r post. Fel arall gallwch wneud cais trwy text relay ar Ffôn: 18002 + y rhif rydych chi am ei ffonio.
Ffôn testun: 18001 + y rhif rydych chi am ei ffonio.
- Opsiwn 3 - Os na allwch chi lenwi’r ffurflen eich hun, byddwn ni’n hapus i’w llenwi i chi. Ffoniwch ni ar 0800 052 0145 rhwng 8am ac 8pm dydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.30am a 1.30pm dydd Sadwrn. Fel arall, gallwch ddefnyddio’r text relay ar Ffôn: 18002 + y rhif rydych chi am ei ffonio.
Ffôn testun: 18001 + y rhif rydych chi am ei ffonio.
Ni allwn dderbyn ceisiadau ar lein ar hyn o bryd.