Os cafodd eich eiddo ei adeiladu cyn 1 Ebrill 2000 ac nad oes mesurydd ynddo, cewch eich bilio ar sail anfesuredig.
Sut caiff eich bil ei gyfrif?
Yn ôl cyfradd sefydlog ar gyfer y flwyddyn, a hynny ar sail:
Nid yw hyn yn adlewyrchu faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio na nifer y bobl sy’n byw yn yr eiddo. Os byddai’n well gennych chi dalu yn ôl faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio, llenwch ein ffurflen gais am fesurydd.
Pryd cewch chi’ch bil?
Byddwn ni’n anfon eich bil anfesuredig atoch unwaith y flwyddyn rhwng Chwefror a Mawrth. Bydd y bil yn cwmpasu’r taliadau ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth ganlynol (fel bil y dreth gyngor).
Angen cymorth i ddeall eich bil?
Mae cymorth ar gael ar ein bil anfesuredig enghreifftiol.
Pryd mae angen i chi dalu eich bil?
Fel cwsmer anfesuredig, cewch dalu eich bil:
-
Dewis 1 - yn llawn
erbyn 1 Ebrill a chael
disgownt o 1.5% ar eich taliadau. Cewch ddefnyddio ein
gwasanaeth talu ar-lein wrth dalu â cherdyn debyd neu gredyd.
-
Dewis 2 - mewn dau randaliad erbyn 1 Ebrill ac 1 Hydref.
-
Dewis 3 - mewn deg rhandaliad, rhwng Ebrill a’r mis Ionawr canlynol (fel taliadau’r dreth gyngor).
-
Dewis 4 - mewn rhandaliadau pob pythefnos neu bob wythnos.
Am dalu eich bil dros gyfnod? Trefnu cynllun talu fel isod:
Os oes gennych gynllun talu ond eich bod chi’n methu â chadw ato, bydd gofyn i chi dalu’r balans llawn sy’n ddyledus.
Oeddech chi’n gwybod...
-
Os byddwch chi’n symud allan o eiddo Anfesuredig cyn 31 Mawrth a’ch bod chi wedi talu’ch bil llawn, caiff unrhyw ordaliad ei ad-dalu neu ei drosglwyddo i’ch cyfeiriad newydd, felly ni fyddwch chi ar eich colled.
Er enghraifft:

Pwy sy’n cydsynio i’n taliadau?
Ofwat rheoleiddiwr y diwydiant dŵr, sy’n pennu ein taliadau.