Hafan  |  Fy Nghyfrif / Preswyl  |  Deall eich Bil  |  Esbonio Eich Bil

Esbonio Eich Bil

Canllawiau i gwsmeriaid heb fesurydd dŵr.

Mae’r swm rydyn ni’n ei godi yn amrywio o un eiddo i’r llall. Rydych chi wedi cael eich bilio am swm sefydlog, ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2011 a 31 Mawrth 2012.

Mae’r bil enghreifftiol isod yn dangos rhai o’r negeseuon a fydd yn ymddangos ar eich bil, ac rydyn ni wedi cynnig esboniad o bob un. Os oes gennych ragor o gwestiynau am eich bil, darllenwch ein cwestiynau cyffredin neu rhowch gynnig ar ein gwasanaeth holi rhyngweithiol.

Esbonio eich bil – canllawiau i gwsmeriaid heb fesurydd dŵr

Rhowch eich llygoden dros ben yr eiconau ar y bil i weld yr esboniad.

Front of bill
  • Mae hyn yn dangos cyfnod y taliadau o dan sylw.
  • Dyma enw a chyfeiriad deiliad y cyfrif. Dyma’r cyfeiriad y byddwn ni’n anfon y biliau iddo.
  • Am ein bod ni’n argraffu eich bil ar 20 Chwefror, mae hyn yn dangos eich balans ar y dyddiad hwnnw. Dylech barhau i dalu yn ôl eich cynllun talu cymeradwy.
  • Dyma’r dyddiad pan ddaw’r taliadau newydd i rym.
  • Mae’r ddau dâl yma’n dangos y symiau y byddwn ni’n eu codi arnoch am eich cyflenwad dŵr ac am waredu eich dŵr gwastraff. Dyma’ch taliadau newydd o 1 Ebrill i 31 Mawrth.
  • Os byddwch chi’n talu trwy ddebyd uniongyrchol, mae opsiwn ar gael i chi wneud un taliad llawn. Os byddwch chi’n talu hyn ar 1 Ebrill neu cyn hynny, cewch ddisgownt o 1.5% ar eich bil.
  • Mae opsiwn hefyd i chi dalu trwy ddebyd uniongyrchol ddwywaith y flwyddyn, yn Ebrill a Hydref, neu cewch ddewis talu’n fisol trwy ddebyd uniongyrchol.
  • Y dyddiadau ar eich bil yw’r dyddiadau pan fyddwn ni’n codi’r taliadau o'ch cyfrif.
  • Os ydych chi’n talu â Cherdyn Talu, bydd rhestr o’ch taliadau fesul mis, pythefnos neu wythnos yma.
  • Bydd eich Cyfeirnod Cwsmer ar waelod pob bil, cofiwch gadw hwn wrth law wrth gysylltu â ni am y byddwn ni’n gofyn amdano.
  • Cyfanswm y bil – mae hyn yn cynnwys y balans ar eich cyfrif ar 14 Chwefror pan cafodd eich bil ei argraffu plws eich taliadau blynyddol am ddŵr a charthffosiaeth.