Dim ond cwsmeriaid sydd wedi gwneud cais am fesurydd dŵr ond na fu modd i ni osod un ar eu cyfer sy’n gymwys ar gyfer y Tâl Mesuredig ar sail Asesiad. Er enghraifft lle nad oedd y pibellau’n addas.
Beth yw Tâl Mesuredig ar sail Asesiad?
Byddwn ni’n cyfrifo’ch bil ar sail y defnydd nodweddiadol o ddŵr ar gyfer yr offer sydd yn yr eiddo (yn ôl y bandiau yn y tabl isod) a’r nifer y bobl sy’n byw yno.
Yn ôl pa fand y cewch chi’ch bilio?
Nifer yr offer sy’n defnyddio dŵr yn eich eiddo sy’n pennu’r band. Rydyn ni’n cyfrif pethau fel peiriannau golchi, pibellau i ddyfrio’r ardd, taenellwyr, peiriannau golchi llestri a chawodydd pŵer.
Pryd cewch chi’ch bil?
Byddwn ni’n anfon eich bil Mesuredig ar sail Asesiad atoch unwaith y flwyddyn rhwng Chwefror a Mawrth. Mae hyn ar gyfer eich taliadau o 1 Ebrill i 31 Mawrth (fel bil y dreth gyngor).
Taliadau Mesuredig ar sail Asesiad (o 1 Ebrill 2013 i 31 Mawrth 2014)
Nifer y bobl
sy’n byw yn yr eiddo |
Band |
Dŵr |
Carthffosiaeth |
Cyfanswm y tâl
blynyddol 1 Ebrill 2013
i 31 Mawrth 2014 |
| 1 |
Isel |
£102 |
£159 |
£261 |
| 2 |
Isel |
£137 |
£200 |
£337 |
| 3 and above |
Isel |
£175 |
£245 |
£420 |
| 1 |
Cymedrol |
£118 |
£178 |
£296 |
| 2 |
Cymedrol |
£161 |
£228 |
£389 |
| 3 and above |
Cymedrol |
£210 |
£286 |
£496 |
Er enghraifft: Os oes un person yn byw yn yr eiddo a bod gennych beiriant golchi, cewch eich asesu ar sail band isel, felly £261 fyddai’r tâl blynyddol ar gyfer 2013-2014.
Pryd y mae angen i chi dalu’ch bil
Fel cwsmer sy’n cael Tâl Mesuredig ar sail Asesiad, gallwch dalu eich bil:
-
Dewis 1 - yn gyfan
erbyn 1 Ebrill a chael
disgownt o 1.5% ar eich taliadau. Cewch ddefnyddio ein
gwasanaeth talu ar-lein wrth dalu â cherdyn debyd neu gredyd.
-
Dewis 2 - mewn dau randaliad erbyn 1 Ebrill ac 1 Hydref.
-
Dewis 3 - mewn deg rhandaliad, rhwng Ebrill a’r mis Ionawr canlynol (fel taliadau’r dreth gyngor).
-
Option 4 - mewn rhandaliadau pob pythefnos neu bob wythnos.
Am dalu eich bil dros gyfnod? Trefnu cynllun talu fel isod:
Os oes gennych gynllun talu ond eich bod chi’n methu â chadw ato, bydd gofyn i chi dalu’r balans llawn sy’n ddyledus.
Oeddech chi’n gwybod...
-
Os byddwch chi’n symud allan o eiddo â Thâl Mesuredig ar sail Asesiad cyn 31 Mawrth a’ch bod chi wedi talu’ch bil llawn, caiff unrhyw ordaliad ei ad-dalu neu ei drosglwyddo i’ch cyfeiriad newydd, felly ni fyddwch chi ar eich colled.
Er enghraifft:

Pwy sy’n cydsynio i’n taliadau?
Ofwat rheoleiddiwr y diwydiant dŵr, sy’n pennu ein taliadau.