Altro neu Waredu Prif Bibell Ddŵr neu Offer Cysylltiedig
Os oes buddiant gennych chi mewn tir lle mae offer Dŵr Cymru, gallwch fynnu bod y brif bibell yn cael ei altro, ei wyro neu ei waredu (er mwyn gwneud gwaith i wella’r tir). Mae ein criw o beirianwyr yn y Gwasanaethau i Ddatblygwyr yma i’ch helpu chi yn hyn o beth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau.
Noder:
-
Er mwyn gwneud cais ar lein, bydd arnoch angen cerdyn credyd neu ddebyd dilys.
-
Y Ffi gyfredol i wneud cais (sydd i’w dalu adeg cyflwyno’r cais - ac na ellir ei ad-dalu) yw £2,000/cais.
-
Caiff TAW ei ychwanegu at y tâl hwn ar y gyfradd safonol.
-
Caiff ffi’r cais ei godi o’r tâl ar gyfer gwyro’r brif bibell ddŵr wrth fwrw ymlaen â’r gwaith.