Hafan  |  Gwasanaethau i Ddatblygwyr  |  Gwasanaethau Dŵr  |  Cysylltu â Phrif Bibell Ddŵr

Cysylltu â Phrif Bibell Ddŵr

Does dim ots a ydych chi’n adeiladu datblygiad newydd neu’n adnewyddu cyflenwad dŵr sy’n bodoli eisoes, gall ein tîm dylunio gynnig dyfynbris am waith i gysylltu cyflenwad dŵr newydd.

Bydd angen cyflenwad dŵr newydd arnoch:

  • os ydych chi’n adeiladu eiddo newydd a bod angen cyflenwad parhaol arnoch
  • os oes angen cyflenwad dros dro ar gyfer adeilad
  • os ydych chi’n troi adeilad yn nifer o unedau â chyflenwadau unigol
  • os ydych chi’n gosod offer diffodd tân, fel taenellwr dŵr
  • os oes arnoch angen cyflenwad at ddibenion dyfrio

Bydd angen adnewyddu’r cyflenwad dŵr:

  • os yw pwysau eich dŵr yn isel a bod angen cyflenwad mwy arnoch
  • os ydych chi am adnewyddu hen gyflenwad plwm
  • os ydych chi’n gwahanu cyflenwad sy’n cael ei rannu
  • os ydych chi’n troi adeilad yn nifer o unedau sy’n rhannu’r un cyflenwad

Noder:

  • Er mwyn gwneud cais ar lein, bydd arnoch angen cerdyn credyd neu ddebyd dilys
  • Y Ffi gyfredol i wneud cais (sydd i’w dalu adeg cyflwyno’r cais - ac na ellir ei ad-dalu) yw £45/cais
  • Caiff TAW ei ychwanegu at y tâl hwn ar y gyfradd safonol
  • Caiff ffi’r cais ei godi o’r tâl cysylltiad newydd wrth fwrw ymlaen â’r gwaith