Hafan  |  Gyrfaoedd  |  Beth sydd yng Nghymru?

Beth sydd yng Nghymru?

Arfordir prydferth Sir Benfro, mynyddoedd mawreddog Eryri, a golygfeydd gwych Bannau Brycheiniog rhai o dirweddau mwyaf hynod ac amrywiol Ewrop…

Ar ben hynny, mae’r brifddinas – Caerdydd – lleoliad llawer o’n swyddfeydd. Mae hi’n ddinas gyffrous a bywiog sy'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’n cynnig siopau o bob lliw a llun, llwyth o fwytai a thafarndai o’r radd flaenaf, a bywyd nos amrywiol… a hynny’n ogystal â datblygiad glan môr mwyaf Ewrop, Bae Caerdydd, sy’n cynnig pob math o gyfleusterau hamdden.

Ond prin dechrau yw hynny. Mae Cymru yn llawn hanes a diwylliant, gyda rhywbeth at ddant pawb. Ydy, mae Cymru yn lleoliad gwaith unigryw ac yn fan hyfryd i greu cartref.