Erbyn hyn mae’r pridd yn cynhesu a chwyn yn dechrau ymddangos. Bydd yn bwysig chwynnu’r gwelyau blodau a llysiau’n rheolaidd dros y misoedd nesaf i’w rhwystro rhag tagu rhai o’r planhigion llai cadarn. Bydd hefyd yn helpu i gadw dŵr gwerthfawr yn y pridd.
Mae pridd cynhesach yn symbylu hadau i egino, felly os am osod lawnt newydd neu adnewyddu rhai mannau moel, dyma’r amser i hadu porfa. Gallwch hefyd blannu planhigion unflwydd cadarn fel pabi, glas yr ŷd (cornflower) a limnathes ym mis Ebrill.
Ym maes llysiau gallwch baratoi a phlannu tatws ‘ail gynnar’ a ‘prif gnwd’ erbyn diwedd y mis. Mae paratoi (chitting) yn golygu gosod tatws ar wahân mewn blwch o fewn ystafell i ffwrdd o olau’r haul. Pan fydd y gwreiddiau tua dwy fodfedd o hyd byddant yn barod i’w plannu. O wneud hynny bydd y tatws yn dechrau’n tyfu’n syth gan ddarparu cnwd cynnar.
Plannwch y tatws had oddeutu chwe modfedd i lawr a thua 12-18 modfedd o’i gilydd, mewn tyllau unigol neu ffosydd. Bydd ychwanegu deunydd organig i’r pridd, yn enwedig gwrtaith neu gompost, yn cadw’r pridd yn llaith a helpu’r tatws i ddatblygu gan y byddant yn amsugno tipyn o ddŵr.
Ym mis Ebrill gallwch hefyd blannu betys, rhuddygl, moron, letys a shibwns tu allan. Yn y tŷ gwydr gallwch blannu tomatos, pupur a pherlysiau fel basil - a blodau megis petwnia, lobelia a gold Ffrainc ac Affrica.
Yng ngwelyau’r ardd gallwch docio llwyni sydd wedi gorffen blodeuo, fel clychau aur (forsythia) a Chaenomeles (cwins blodeuog) wrth dorri nôl y blagur. Gyda phlanhigion mawr trïwch ddileu tua phumed ran o’r hen flagur bob blwyddyn wrth eu tocio hyd y llawr. Tociwch blanhigion llai cadarn hyd at flagur ifanc cryf. Yn ogystal, tociwch blanhigion fel lafant i’w rhwystro rhag mynd yn hirgoes ond peidiwch â thocio’r hen ganghennau coed.
Os bydd angen prynu torrwr lawnt newydd, ystyriwch un sy’n torri’r glaswellt yn fân (mulch mower) er mwyn bwydo a chadw’r lawnt yn llaith a gwyrdd drwy’r haf.
Os yn casglu’r glaswellt, gallech osod llafnau’r peiriant yn uwch er mwyn gadael y glaswellt ychydig yn hirach, gan helpu i gynnal y pridd oddi tano ond yn dal i gynnal y lant mewn cyflwr da. Cofiwch roi’r toriadau mewn haenau yn y blwch compost, rhwng deunydd yn cynnwys tipyn o ffeibr, er mwyn osgoi creu pentwr drewllyd!