Mae Dŵr Cymru yn benderfynol o warchod adnoddau dŵr a hyrwyddo defnydd effeithiol o ddŵr. Cliciwch ar y linciau isod i ddysgu mwy am drafod dŵr yn ddoeth.
taenellwr gardd yn defnyddio 1 metr ciwbig o ddŵr bob awr – sef defnydd dŵr cartref cyfartalog mewn dau ddiwrnod
gadael y tap i redeg yn gwastraffu 10 litr o ddŵr, bob tro
tap yn diferu yn gallu gwastraffu llond bath o ddŵr bob wythnos
galw am ddŵr yn uwch rhwng 5.30pm ac 8.00pm - trïwch osgoi dyfrio’r ardd a golchi dillad bryd hynny
rhoi toriadau gwellt o gwmpas planhigion yn gostwng anweddiad hyd at 70%
eich ymennydd yn cynnwys 72% o ddŵr
Os yn gweld dŵr yn gollwng, galwch 0800 281 432.
Ailgylchu
Mae modd defnyddio dŵr bath a golchi llestri yn ddiogel ar lawntiau a phlanhigion mewn gwelyau sefydlog. Ond peidiwch â’u rhoi ar lysiau neu blanhigion mewn potiau. Yn ogystal, peidiwch â defnyddio dŵr gwastraff o beiriannau golchi dillad a llestri am ei fod yn cynnwys llawer o halen a glanedyddion.
Gallwch storio dŵr glaw wrth ei gasglu mewn casgen a’i ddefnyddio yn yr ardd ac ati. Gallwch brynu casgenni dŵr mewn siopau DIY.