Dyma rai cwestiynau cyffredin a godir gyda Dŵr Cymru.
Ydy’n werth monitro’r defnydd dŵr?
Byddwn yn argymell cwsmeriaid i gadw cofnod o’u defnydd dŵr wrth gymryd darlleniadau rheolaidd a’u cymharu â rhai blaenorol – darllenwch y rhifau du ar wyn (neu gwyn ar ddu). Bydd yn rhoi syniad o’ch defnydd ‘normal’. Os bydd cynnydd mawr yn y defnydd na fydd modd ei esbonio, gallai awgrymu gollyngiad ar eich pibell gyflenwi. Os na fyddwch yn gallu darllen y mesurydd oherwydd baw, anwedd neu reswm arall, galwch ni ar 0800 052 0140.
Sut i ddatgelu gollyngiad ar bibell gyflenwi?
Os yn sylwi cynnydd sylweddol yn eich defnydd o ddŵr nad oes modd ei esbonio, efallai bydd eich pibell gyflenwi’n gollwng. Bryd hynny, awgrymwn eich bod yn dilyn y camau isod:
Darllen y mesurydd
troi i ffwrdd y stoptap mewnol (fel arfer ble bydd y bibell ddŵr yn dod i mewn i’r adeilad)
gadael y cyflenwad i ffwrdd am o leiaf 12 awr (er enghraifft, dros nos)
peidio defnyddio unrhyw ddŵr yn ystod y cyfnod cymryd darlleniad pellach ar ôl 12 awr
Os bydd y darlleniad heb newid, ni fydd gollyngiad gennych.
Os bydd y darlleniad wedi newid, galwch ni ar 0800 052 0140 am gyngor.
Os yn datgelu gollyngiad ar y bibell gyflenwi, fydd rhaid i mi dalu am y dŵr a gollwyd?
Os ydynt wedi’u cysylltu â’r system garthffosiaeth, gall cwsmeriaid dibreswyl dderbyn lwfans am elfen garthffosiaeth eu bil, ond dim ond os yw’n glir fod y dŵr a gollwyd heb fynd i mewn i’r system garthffosiaeth. Ni fyddwn yn rhoi lwfans am elfen ddŵr ein biliau.
Yn achos adeiladau defnydd cymysg, y tro cyntaf y datgelir a hysbysir gollyngiad gallwn roi lwfans am y dŵr a gollwyd mewn perthynas ag elfen breswyl y cyflenwad yn unig. Gellir rhoi lwfans llawn am elfen garthffosiaeth y bil ond dim ond os yw’n glir fod y dŵr a gollwyd heb fynd i mewn i’r system garthffosiaeth. Os yw’n glir fod y gollyngiad yn deillio o esgeulustod cwsmer neu drydydd parti ee tap yn diferu, gorlif yn gollwng neu bibellau diffygiol, ni roir lwfans am elfen ddŵr y bil. Fodd bynnag, os all y cwsmer brofi nad oes dŵr o’r gollyngiad wedi cyrraedd y system garthffosiaeth, gellir rhoi lwfans am elfen garthffosiaeth y bil.
Rwy’n talu’r prisiau carthffosiaeth llawn ond nid yw’r holl ddŵr a ddefnyddir yn dychwelyd i’r system garthffosiaeth. Alla’i hawlio disgownt?
Cliciwch yma am gopi o’n ffurflen gais ‘Nid dychwelyd i garthffosydd’. Llenwch a chyflwynwch y ffurflen. Byddwn yn asesu eich cais ar ôl derbyn y ffurflen. Mewn rhai achosion bydd angen ymweld â’r safle.
Nid yw’r dŵr glaw sy’n cwympo ar fy adeilad yn dychwelyd i’r system garthffosiaeth. Alla’i hawlio disgownt?
Cliciwch yma am gopi o’n ffurflen gais ‘Draenio dŵr arwyneb’. Llenwch a chyflwynwch y ffurflen. Byddwn yn asesu eich cais ar ôl derbyn y ffurflen. Mewn rhai achosion bydd angen ymweld â’r safle.
Sut i osgoi derbyn biliau amcangyfrifiedig?
Ble’n bosibl byddwn yn ceisio anfon biliau’n seiliedig ar ddarlleniad ‘gwirioneddol’. Gallwch osgoi derbyn biliau amcangyfrifiedig os bydd modd darllen eich mesurydd ar bob amser.
Oes rhaid cael mesurydd dŵr?
Rhaid gosod mesurydd ar bob cyflenwad dibreswyl, pan fo’n ymarferol. Mae hynny’n cynnwys adeiladau dibreswyl ble mae’r defnydd dŵr yn bennaf neu’n unig at ddibenion preswyl, ynghyd ag adeiladau defnydd cymysg (adeiladau sy’n rhannol breswyl a rhannol ddibreswyl). Yn ogystal, gellir mynnu gosod mesurydd mewn adeiladau lluos breswyl ee tai gwely a brecwast a chartrefi nyrsio.
Fyddwch yn datgysylltu pobl os yn methu talu bil?
Mae biliau’n daladwy o fewn 14 diwrnod. Os na fyddwch yn talu o fewn 14 diwrnod, byddwn yn anfon nodyn atgoffa. Os yn dal i fethu talu, byddwn yn anfon ‘Hysbysiad cyn datgysylltu’ neu ‘Rhybudd camau cyfreithiol’. Os yn dal i fethu talu, byddwn yn datgysylltu eich cyflenwad neu’n cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.
Os byddwn yn datgysylltu eich cyflenwad, ni fyddwn yn ailgysylltu tan i chi wneud trefniadau i dalu’r swm dyledus ynghyd â’n costau ni wrth ddatgysylltu ac ailgysylltu eich cyflenwad. Bydd hefyd angen i chi dalu blaendal er diogelu taliadau’r dyfodol.
Oes modd symud mesurydd dŵr?
Yn unol â Rhan 2, Rheoliadau (Mesuryddion) Dŵr 1988, byddwn yn pennu lleoliad mesurydd neu offer darllen. Os am wneud cais i ail-leoli mesurydd, galwch 0800 052 0140 er mwyn nodi’r rhesymau. Os yn cytuno â’r cais, gallwn ofyn i chi dalu am y gwaith angenrheidiol.
Oes modd newid dyddiad darllen mesurydd a biliau?
Na. Yn anffodus nid oes modd newid dyddiad eich biliau oherwydd byddwn yn cynllunio ein gwaith er mwyn darllen mesuryddion o fewn ardaloedd cod post – sy’n helpu i isafu ein costau. Byddwn yn anfon biliau yn fuan ar ôl darllen y mesuryddion.
Gwybodaeth bellach
Cod ymarfer er casglu biliau heb eu talu gan gwsmeriaid preswyl