RYDYCH YMA > Hafan > Newyddion > Cyflwyniad

Newyddion / Datganiadau i’r wasg

corner

Sut i gysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 0145

Canlyniad chwilio

02/07/2008

Cynllun Stryd Zouch yn Dechrau

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi dechrau ar gynllun gwerth £300,000 i atal gorlifo i eiddo yn Stryd Zouch yn ardal Manselton o ddinas Abertawe. Fe fydd y gwaith, sy’n golygu adeiladu carthffos liniaru newydd 60 metr o hyd, yn cynyddu cynhwysedd ar y rhwydwaith, ac fe fydd y gwaith yn cael ei wneud yn Stryd Zouch, Stryd Clare a Stryd Millwood.

02/07/2008

Buddsoddiad Arfaethedig ym Mhenllergaer

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn bwriadu uwchraddio’r rhwydwaith carthffosiaeth ar Gors Common er mwyn caniatau cysylltu datblygiad arfaethedig o dai ym Mhant Penderri, a lliniaru’r perygl o ddwr gwastraff yn gorlifo yn yr ardal. Fe fydd y cynllun yn cynnwys gosod 590 metr o garthffosydd yn y comin a thanc yng ngorllewin y comin, gerllaw Gors Road a Heol Gorseinon. Fe fydd y tanc yn cael ei weithredu fel cyfleuster dal dwr byrdymor ar gyfer dwr storm yn ystod cyfnodau o dywydd garw.

01/07/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi i wella gwasanaethau dwr gwastraff yn Hwlffordd

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi cwblhau gwaith ar gynllun i wella perfformiad rhwydwaith dwr gwastraff Hwlffordd.

01/07/2008

Tro bach hamddenol yn yr haf yn Llandegfedd

Fe all ymwelwyr a chronfa ddwr Llandegfedd o eiddo Dwr Cymru Welsh Water fanteisio hyd yr eithaf ar dywydd yr haf gyda thaith gerdded a drefnwyd ar gyfer dydd Sul hwn (y 6ed o Orffennaf).

30/06/2008

Rhodio ar hyd y ddol yng Nghwm Elan

Y mae’r sawl sy’n caru blodau ac ‘egin’ fotanegwyr yn cael cynnig y cyfle i gael golwg ar rywogaethau prin a rhywogaethau a warchodir yn eu cynefin naturiol yng Nghwm Elan ddydd Sul, y 6ed o Orffennaf.

30/06/2008

Arddangosfa gyhoeddus i roi manylion cynllun buddsoddi gwerth £320,000 yn nhref Arberth

Y mae trigolion yn Arberth yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau cynllun buddsoddi gwerth £320,000 sydd ar y gweill gan Dwr Cymru Welsh Water.

30/06/2008

BWLETIN TRAFFIG ODDI WRTH DWR CYMRU WELSH WATER

Y mae Dwr Cymru Welsh Water ar hyn o bryd yn gweithio i sicrhau bod cwsmeriaid yng nghanol tref Llanelli yn parhau i dderbyn cyflenwad dibynadwy o ddwr yfed o’r ansawdd uchaf yn uniongyrchol i’w tapiau.

27/06/2008

Ewch i gael eich bachu ar Bysgota a Phlu yn Llyn Brenig

Y mae ymwelwyr a chronfa ddwr Llyn Brenig, ger Corwen, yn cael y cyfle i ddysgu hobi newydd ddydd Sul hwn (y 6ed o Orffennaf) pan fydd celfyddyd gelfydd pysgota a phlu ar gael i bawb roi tro arni.

25/06/2008

Helpwch amgylchedd Cymru: 'Peidiwch a defnyddio'ch toiled fel bin'

• Cwmni'n enwi'r 'Dwsin Drwg' o eitemau na ddylid eu golchi i lawr y toiled • Tîm ysgol a dwr yn casglu ysbwriel ar draeth Porthcawl Mae Dwr Cymru Welsh Water yn cefnogi 'Wythnos Cymru Daclus' Cadwch Gymru'n Daclus drwy atgoffa cwsmeriaid: 'Nid bin yw'ch toiled'.

23/06/2008

Llandrillo-yn-Rhos i elwa o gynllun lliniaru llifogydd gan Dwr Cymru Welsh Water

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi dechrau gwaith yn Llandrillo-yn-Rhos ar brosiect a fydd yn lleihau’r perygl o lifogydd mewnol i gartrefi lleol.

23/06/2008

Johnstown i elwa o gynllun lliniaru llifogydd

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi bron £600,000 mewn cynllun a fydd yn lliniaru’r perygl o orlifo i gartrefi lleol yn ardal Johnstown yn Wrecsam.

20/06/2008

Tim dwr yn codi ‘mynydd o arian’ i elusen

Y mae cynrychiolwyr Dwr Cymru Welsh Water wedi codi bron £5000 ar gyfer yr elusennau Cymorth Dwr a Hosbis Plant Claire House drwy ddringo mynyddoedd uchaf Cymru mewn un diwrnod.

19/06/2008

Disgyblion Yr Wyddgrug yn cynorthwyo i barhau a’r frwydr yn erbyn braster

Y mae ymgyrch Dwr Cymru Welsh Water i ymladd yn erbyn braster yn parhau gyda chymorth gan ddisgyblion yn Ysgol Parc Y Llan yn Nhreuddyn, sydd wedi bod yn dysgu bod bwydo adar gwyllt nid yn unig yn eu cynorthwyo hwynt i aros yn iach ond fe allai hefyd gadw carthffosydd lleol mewn cyflwr penigamp.

18/06/2008

Archwilio Cwm Elan ar Daith Gerdded Gron o amgylch Pen y Garreg

Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan yn gwahodd pobl i archwilio’r olygfa syfrdanol yn ardal Pen y Garreg gyda thaith gerdded dywysedig brynhawn Sadwrn hwn (yr 21ain o Fehefin).

16/06/2008

Rasa i gael cynllun gwelliannau dwr gwerth £1.1 miliwn

Fe fydd cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water yn Rasa yn go fuan yn elwa oddi wrth gynllun gwelliannau dwr yn eu hardal.

16/06/2008

Mynydd o her i staff Dwr Cymru Welsh Water

Y mae dau o weithwyr Dwr Cymru Welsh Water o Gaerdydd wedi cynorthwyo i godi mwy na £600 ar gyfer yr elusen Cymorth Dwr, ar ol dringo bron 3,000 o droedfeddi i frig mynydd Cadair Idris yn Eryri, Gogledd Cymru.

16/06/2008

Gweithwyr dwr yn rhoi cymorth llaw i elusen leol

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi rhoi cymorth llaw i elusen yng Nghwm Clydach drwy osod tarmac ar faes parcio’r elusen.

12/06/2008

Y mae disgyblion Tywyn yn cael mewnwelediad i adeiladu

Y mae disgyblion o Ysgol Uwchradd Tywyn wedi derbyn mewnwelediad drostynt eu hunain i’r hyn y mae’n ei gymryd i naddu gyrfa iddynt eu hunain yn y diwydiant adeiladu.

12/06/2008

Y Pennau Tap yn dangos eu nerth ymenyddol dros Cymorth Dwr

Fe wnaeth goruchafiaeth mewn nerth ymenyddol ennill y dydd pan wnaeth tim o weithwyr Dwr Cymru Welsh Water o Ffos y Gerddinen drechu’r ‘Eggheads’ clodfawr ar sioe gwis teledu’r BBC.

11/06/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water i ddychwelyd £27 miliwn i’w cwsmeriaid

Y mae Dwr Cymru Welsh Water heddiw yn cyhoeddi’u canlyniadau rhagarweiniol am y flwyddyn sy’n diweddu ar yr 31ain o Fawrth, 2008 – sy’n dangos rhagor o enillion mewn effeithlonrwydd a nerth ariannol.

10/06/2008

Taith Taf

Y mae saith a thrigain o feicwyr awyddus gyda chysylltiadau cryfion a Dwr Cymru Welsh Water wedi cwblhau Taith Taf sy’n 55 milltir o hyd i gefnogi hoff elusen y sefydliad, Cymorth Dwr.

09/06/2008

DWR CYMRU’N YMUNO AG YMGYRCH Y DU

· Ymgyrch ‘Cnoc Cnoc. Pwy sy ‘na? Holwch yn iawn cyn eu gadael i mewn!’ yn cael ei lansio heddiw · Lanio ymgyrch ar ol i bensiynwyr o Gymru’n dioddef o ladrata tynnu sylw

09/06/2008

Y mae disgyblion yn Y Fflint yn cael eu recriwtio i gynorthwyo i ymladd braster

Y mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Cornist Park yn Y Fflint wedi bod yn dysgu sut y mae bwydo adar gwyllt nid yn unig yn eu cynorthwyo hwynt i aros yn iach ond fe allai hefyd gadw carthffosydd lleol mewn cyflwr penigamp.

05/06/2008

Y mae Talacre i elwa oddi wrth gynllun lliniaru llifogydd gan Dwr Cymru Welsh Water

Fe fydd Dwr Cymru Welsh Water yn dechrau gwaith yr wythnos hon ar gynllun a fydd yn lliniaru’r perygl o lifogydd mewn ardal o Dalacre.

03/06/2008

Dwr Cymru yn cwblhau cynllun lliniaru llifogydd ym Meliden

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi cwblhau cynllun i leihau’r perygl o lifogydd mewnol a llifogydd allanol i gartrefi ym Meliden, Prestatyn.

28/05/2008

Tim dwr i gyrraedd y brig dros elusen

Y mae cynrychiolwyr o Dwr Cymru Welsh Water wedi gosod targed uchelgeisiol iddynt eu hunain i godi mwy na £3000 ar gyfer yr elusen Cymorth Dwr a Hosbis Plant Claire House drwy ddringo rhai o fynyddoedd uchaf Cymru.

27/05/2008

Arddangosfa gyhoeddus i roi manylion cynllun buddsoddi dwr gwerth £730,000 yn Abertawe

Y mae trigolion yn ardaloedd Y Sgeti, Fforestfach a’r Cocyd yn Abertawe yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau cynllun buddsoddi gwerth £730,000 gan Dwr Cymru Welsh Water.

27/05/2008

Y mae canolfan addysg Dwr Cymru Welsh Water yn cael gweddnewidiad gwyrdd

Y mae Canolfan Addysg Amgylcheddol Dwr Cymru Welsh Water yn Alwen yn wyrddach nag erioed, ar ol cael gweddnewidiad diweddar.

22/05/2008

Cyhoeddi enwau enillwyr y Wobr Glan Mor

Mae pedwar deg a dau o draethau Cymru a phum marina ar y rhestr o leoliadau mewn 36 o wledydd yn y byd a fydd yn cael cydnabyddiaeth am fedru cwrdd a’r meini prawf llym sydd yn ymwneud a’r dwr ymdrochi ac a phethau ar y tir, gan ennill statws y Faner Las.

21/05/2008

Dechreuwyr i gael ‘Blas ar Frithyll’

Fe fydd y penwythnos hwn yn gweld un arall o’r cyrsiau pysgota a phlu tragwyddol boblogaidd yng nghronfa ddwr Dwr Cymru Welsh Water yn Llandegfedd.

21/05/2008

Tro bach hamddenol gyda’r nos yng Nghwm Elan

Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan yn gwahodd pobl i wneud y mwyaf o’r nosweithiau goleuach ac ymuno a thaith gerdded hamddenol gyda’r nos ddydd Sul hwn (y 25ain o Fai).

21/05/2008

Tro bach hamddenol gyda’r nos yng Nghwm Elan

Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan yn gwahodd pobl i wneud y mwyaf o’r nosweithiau goleuach ac ymuno a thaith gerdded hamddenol gyda’r nos ddydd Sul hwn (y 25ain o Fai).

21/05/2008

Amser da eithriadol yng Nghwm Elan

Yr hanner tymor hwn, fe fydd Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan yn cynnig y cyfle i ymwelwyr fwynhau’r atyniadau naturiol a’r atyniadau gwneuthuredig sydd gan y Stad i gynnig.

19/05/2008

Y mae pobl Y Fflint yn cael eu hannog i ymladd braster

Y mae pobl Y Fflint yn cael eu hannog i gynorthwyo i weddnewid y dref i fod yn ‘barth di-fraster’ er mwyn cynorthwyo i gadw carthffosydd lleol mewn cyflwr penigamp.

12/05/2008

Heb os nac oni bai – ewch am gasgen!

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn cynnig cynorthwyo cwsmeriaid i Fod yn Gall gyda Dwr yr haf hwn

12/05/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn mynd i’r afael a llifogydd yn Ffos y Gerddinen

Y mae’r wythnos hon (dydd Llun, y 12fed o Fai) yn gweld dechrau cynllun gan Dwr Cymru Welsh Water i gynorthwyo i liniaru peryglon llifogydd yn Llwyn-yr-Eos, Ffos y Gerddinen.

12/05/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn mynd i’r afael a llifogydd yng Nghilfynydd

Y mae’r wythnos hon (dydd Llun, y 12fed o Fai) yn gweld dechrau cynllun gan Dwr Cymru Welsh Water i gynorthwyo i liniaru peryglon llifogydd yng Nghilfynydd, ger Pontypridd.

08/05/2008

Y mae ansawdd dwr yn mynd i wella gyda buddsoddiad

Y mae rhaglen fuddsoddi gwerth £19 miliwn mewn ansawdd dwr yfed yng Ngwaith Trin Dwr Court Farm yn mynd i ddechrau, gan ddod a gwell ansawdd yn y cyflenwad i gwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water yn yr ardal.

07/05/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water am adfer cronfa ddwr i ail-wasanaethu

Y mae Dwr Cymru Welsh Water ar hyn o bryd yn gweithio yng Ngharno Isaf i adfer y gronfa ddwr leol i ail-wasanaethu.

28/04/2008

Y mae Talybont yn ‘rhwydo’ budd oddi wrth fuddsoddiad gan Dwr Cymru Welsh Water

Y mae dau o amwynderau mwyaf poblogaidd Talybont, sef y Clwb Criced a Neuadd Henderson, wedi elwa oddi wrth fuddsoddiad gwerth £16.8 miliwn gan Dwr Cymru Welsh Water yng Ngwaith Trin Dwr Talybont.

28/04/2008

Arddangosfa gyhoeddus i roi manylion buddsoddiad dwr sy’n fuddsoddiad gwerth £665,000 ym Mhontarddul

Y mae trigolion ym Mhontarddulais yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau cynllun buddsoddi gwerth £665,000 o eiddo Dwr Cymru Welsh Water.

28/04/2008

Plant ysgol Pen-y-bont ar Ogwr yn troi’n arolygwyr safle am y diwrnod

Fe wnaeth disgyblion o Ysgol Gynradd Plasnewydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wisgo’u siacedi llachar ac esgidiau diogelwch – i ymweld a’r estyniad gwerth £6.35 miliwn i waith trin dwr gwastraff Dwr Cymru Welsh Water yn Y Bari.

25/04/2008

Y mae Ysgol Babanod Wat’s Dyke yn ennill gyda Dwr Cymru Welsh Water, fel y mae cynllun lliniaru llif

Yr oedd disgyblion o Ysgol Babanod Wat’s Dyke yn ddarlun o berffeithrwydd wrth iddynt orffen ar y brig mewn cystadleuaeth ddarlunio, a drefnwyd gan Dwr Cymru Welsh Water.

24/04/2008

Y mae gwaith uwchraddio hanfodol yn dechrau yn Amlwch

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn gwneud gwaith hanfodol i adeiladu gwaith trin dwr gwastraff newydd yn Amlwch, a ddaw a buddion arwyddocaol i gymunedau lleol ac i’r amgylchedd.

24/04/2008

Mwy o bwer dwr i ogledd Cymru

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn tanio tyrbin trydan dwr yng nghronfa ddwr Llyn Brenig i gynhyrchu ynni glan a chymryd cam arall tuag at ostwng ol-troed carbon y cwmni.

23/04/2008

Y mae Dwr Cymru yn rhoddi ‘hippos’ i ysgol leol

Y mae Ysgol Bryn Tabor wedi derbyn cyfarpar effeithlonrwydd dwr oddi wrth Dwr Cymru Welsh Water i ddathlu cwblhau’u cynllun yn yr ardal ac i gynorthwyo disgyblion i arbed dwr ac i ddiogelu’r amgylchedd.

23/04/2008

Y mae tim lleol yn mynd ar y ‘bws-dwr’ i Blackpool

Fe wnaeth tim pel-droed o dan 8 oed Ieuenctid Blacon (Blacon Youth) deithio ar ‘fws-dwr’ i Blackpool y penwythnos hwn i gystadlu mewn twrnamaint cenedlaethol.

22/04/2008

BWLETIN TRAFFIG ODDI WRTH DWR CYMRU WELSH WATER

Y mae Dwr Cymru Welsh Water ar hyn o bryd yn gweithio i sicrhau bod cwsmeriaid yn ardal Llanisien yng Nghaerdydd yn parhau i dderbyn cyflenwad o ddwr yfed o’r ansawdd uchaf yn uniongyrchol i’w tapiau.

21/04/2008

Disgyblion yn ‘darlunio’u’ cariad tuag at Gaerdydd

Y mae egin-arlunwyr o Ysgol Gynradd Oakfield wedi gafael yn eu brwsys paent ac wedi rhoi’u medrau celfyddydol ar brawf fel rhan o gystadleuaeth posteri, a bennwyd gan Wasanaethau Cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water.

18/04/2008

Plant gweithwyr yn dysgu am ddwr yn ystod Diwrnod Hwyl Cilfynydd

Fe lwyddodd gweithwyr Dwr Cymru Welsh Water i gael y plantos oddi ar eu dwylo yn ystod gwyliau ysgol y Pasg - drwy fynd a hwynt i un o’r pedair canolfan addysg amgylcheddol sydd gan y cwmni.

17/04/2008

Disgyblion Sir Gaerfyrddin yn cael y cynghorion gorau ar gyfer arbed dwr

Y mae plant ysgol o Ysgol Gymunedol Ysgol y Fro yn sir Gaerfyrddin wedi bod yn dysgu am ddwr ac yn cael gwersi ynglyn a sut i gynorthwyo i’w arbed.

17/04/2008

Y mae Betws yn Rhos yn derbyn hwb amgylcheddol

Y mae Betws yn Rhos yn elwa oddi wrth welliannau amgylcheddol, diolch i gwblhau prosiect gan Dwr Cymru Welsh Water yn yr ardal.

17/04/2008

Disgyblion Sir Gaerfyrddin yn cael y cynghorion gorau ar gyfer arbed dwr

Y mae plant ysgol o Ysgol Gymunedol Ysgol y Fro yn sir Gaerfyrddin wedi bod yn dysgu am ddwr ac yn cael gwersi ynglyn a sut i gynorthwyo i’w arbed.

11/04/2008

Hwb Amgylcheddol i Bentraeth

Y mae pentref Tan Y Graig, ger Pentraeth, yn mynd i elwa oddi wrth welliannau amgylcheddol, diolch i gwblhau cynllun gan Dwr Cymru Welsh Water yn yr ardal.

09/04/2008

Y mae Afon Rhondda Fach yn mynd i elwa oddi wrth gynllun amgylcheddol

Yr wythnos hon, fe fydd cynllun buddsoddi gan Dwr Cymru Welsh Water yn cael ei ddechrau, sydd yn mynd i ddarparu hwb amgylcheddol i’r Afon Rhondda Fach ym Mhont-y-gwaith.

09/04/2008

Dydd Suliau Saffari yng Nghwm Elan

Bob bore Sul o’r 20fed o Ebrill tan ddiwedd mis Mehefin, fe fydd Prif Geidwad Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water, Pete Jennings, yn tywys ymwelwyr ar saffari gwylio adar drwy Gwm Elan.

08/04/2008

Y mae Penycae i dderbyn hwb amgylcheddol

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi £47,000 mewn cynllun a fydd yn darparu hwb amgylcheddol i Benycae ger Rhosllanerchrugog.

08/04/2008

Ditectyddion ar drywydd pathew yn Llandegfedd

Fe wahoddir y sawl sy’n caru natur i ymuno a cheidwaid cefn gwlad Dwr Cymru Welsh Water y penwythnos hwn i chwilio am un o anifeiliaid mwyaf annaliadwy Prydain yng nghronfa ddwr Llandegfedd.

04/04/2008

Disgyblion yn cynorthwyo i ddiogelu adar Hiraethog

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi bod yn addysgu disgyblion Rhuthun ynglyn a sut y gallant gynorthwyo i ddiogelu’r adar lleol.

04/04/2008

Disgyblion yn dysgu gwerth dwr mewn natur

Y mae disgyblion o Gasnewydd wedi bod yn dysgu sut i gynorthwyo’n hadar gwyllt i gadw’n iach - drwy sicrhau bod ganddynt nid yn unig ddigon o fwyd, ond cyflenwadau o ddwr, hefyd.

03/04/2008

DWR CYMRU WELSH WATER YN PENODI CYFARWYDDWR ANWEITHREDOL NEWYDD

Fe wnaeth Dwr Cymru Welsh Water heddiw gyhoeddi bod Robert (Bob) Ayling wedi’i benodi’n gyfarwyddwr anweithredol Dwr Cymru Welsh Water a’r cwmni sy’n rhiant-gwmni iddo sef Glas Cymru, ac fe ddaw hyn i rym o’r 3ydd o Ebrill 2008.

02/04/2008

Disgyblion yn cynorthwyo i ddiogelu adar Hiraethog

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi bod yn addysgu disgyblion Rhuthun ynglyn a sut y gallant gynorthwyo i ddiogelu’r adar lleol.

28/03/2008

BWLETIN TRAFFIG ODDI WRTH DWR CYMRU WELSH WATER

Y mae Dwr Cymru Welsh Water ar hyn o bryd yn gweithio i wella prosesau trin dwr yng Ngwaith Trin Dwr Talybont.

27/03/2008

Blas ar Gymru i Bysgotwyr Brithyll

Y penwythnos hwn, fe fydd y cyrsiau pysgota a phlu, sy’n dragywydd boblogaidd, yn dychwelyd yng nghronfa ddwr Llandegfedd o eiddo Dwr Cymru Welsh Water.

25/03/2008

Y mae trigolion Aberteifi’n cynnig llwncdestun i gynllun dwr llwyddiannus

Fe all cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water yn Aberteifi fod yn sicr eu bod wedi sicrhau cyflenwad dwr yfed o’r ansawdd uchaf ar gyfer y dyfodol, gyda chwblhau cynllun buddsoddi sylweddol i uwchraddio’r prif bibellau dwr yn yr ardal.

20/03/2008

Cyhoeddi enwau enillwyr y Wobr Glan Mor

Bydd Porth Swtan ar Ynys Mon, y lle harddaf yng Nghymru yn ol pleidlais a gynhaliwyd unwaith, a lleoliad ty hir to gwellt olaf yr ynys, yn derbyn yr anrhydedd eithaf mewn seremoni ddydd Iau, 20fed Mawrth, pan fydd yn un o 111 o draethau Cymru sydd wedi ennill yr hawl i chwifio banner las a melyn y Wobr Glan Mor.

13/03/2008

BWLETIN TRAFFIG ODDI WRTH DWR CYMRU WELSH WATER

Y mae Dwr Cymru Welsh Water ar hyn o bryd yn gweithio i sicrhau bod cwsmeriaid yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i dderbyn cyflenwad dwr yfed o’r ansawdd uchaf yn uniongyrchol i’w tapiau.

12/03/2008

Pasg hynod o ‘wy-ch’ yng Nghwm Elan

Y mae gan Geidwaid Cefn Gwlad ar Stad Cwm Elan o eiddo Dwr Cymru Welsh Water ddigon ar y gweill ar eich cyfer chi a’ch rhai bychain y Pasg hwn. Y mae hwyliau’r gwyliau’n dechrau gyda Swae’r Pasg, a gynhelir yn ddyddiol o ddydd Gwener, yr 21ain tan ddydd Llun, y 24ain o Fawrth. Y mae’r cwis hwyl y teulu’n cychwyn o’r Ganolfan Ymwelwyr (Cyfeirnod grid SN928646), unrhyw adeg rhwng 11.00 y bore a 4.30 y pnawn. Y mae tal mynediad ond yn 50 ceiniog i bob plentyn, ac fe fydd yr enillydd yn derbyn wy Pasg MAWR.

12/03/2008

Cerddwch drwy Gwm Elan mewn munudau

Fe all ymwelwyr a Chanolfan Ymwelwyr Cwm Elan o eiddo Dwr Cymru Welsh Water brofi a mwynhau’r gwahanol lwybrau cerdded tywysedig a golygfeydd tymhorol o’r Stad mewn ond un ymweliad byr fis Mawrth a mis Ebrill hwn.

10/03/2008

Camwch ymlaen i’r gwanwyn gyda Thaith Gerdded y Pum Carnedd

Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan yn gwahodd pobl i fanteisio ar dywydd y gwanwyn drwy gymryd rhan mewn taith gerdded fywiocaol wyth milltir o hyd ar hyd bryniau ddydd Sul hwn (16eg o Fawrth).

10/03/2008

Gweithiwr dwr yn trechu’r arferiad

Y mae Ian Case o Aberdar wedi addo ‘trechu’r arferiad’ a diffodd sigarennau fel rhan o Flwyddyn Byw’n Iach gwasanaeth cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water.

10/03/2008

Camwch ymlaen i’r gwanwyn yn Llandegfedd

Fe all ymwelwyr a chronfa dDwr Dwr Cymru Welsh Water yn Llandegfedd fanteisio ar dywydd y gwanwyn a chwythu ymaith y gweoedd pryfed cop, gyda thaith gerdded adfywiol ddydd Sul hwn (16eg o Fawrth).

06/03/2008

Gwaith uwchraddio blasus gwerth £7.8 miliwn ar gyfer dŵr yfed yng Ngogledd Cymru

Y mae gwaith uwchraddio gwerth £7.8 miliwn i’r broses trin dŵr ar gyfer miloedd o gwsmeriaid Dŵr Cymru Welsh Water yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar fin cael ei roi ar waith fesul cyfnod.

05/03/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn mynd i’r afael a gorlifo yn Llanrhymni

Wythnos nefaf (dydd Llun, y 10fed o Fawrth), fe fydd cynllun yn cael ei ddechrau gan Dwr Cymru Welsh Water i gynorthwyo i liniaru peryglon gorlifo yn Llanrhymni, Caerdydd.

05/03/2008

Dwr Cymru Welsh Water yn mynd i’r afael a gorlifo ym Mhont-y-pwl

Wythnos nefaf (dydd Llun, y 10fed o Fawrth), fe fydd cynllun yn cael ei ddechrau gan Dwr Cymru Welsh Water i gynorthwyo i liniaru peryglon gorlifo ym Mhont-y-pwl.

05/03/2008

Johnstown i gael hwb amgylcheddol

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi bron £600,000 mewn cynllun a fydd yn darparu hwb amgylcheddol ac yn lliniaru peryglon gorlifo i gartrefi lleol yn ardal Johnstown yn Wrecsam.

05/03/2008

Y mae ‘Diva’ yn mynd am arena sioe Crufts

Am un diwrnod yn unig, fe fydd Barrie James, sy’n weithiwr gyda Dwr Cymru Welsh Water, a’i ast Diva, o Ben-y-bont ar Ogwr yn ei chanol hi yn arena Crufts!

03/03/2008

Buddsoddiad dwr gwerth £1.6 miliwn yn ei hanelu hi am ardal Llandysul

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi £1.6 miliwn i uwchraddio’r prif bibellau dwr yn ardal Llandysul.

27/02/2008

Y mae staff yn rhoi’r Gymraeg yn Dwr Cymru Welsh Water

Y mae grwp o staff Dwr Cymru Welsh Water wedi penderfynu gafael yn eu llyfrau ysgol unwaith eto a’i hanelu hi’n ol am yr ystafell ddosbarth i ddysgu Cymraeg.

25/02/2008

BWLETIN TRAFFIG ODDI WRTH DWR CYMRU WELSH WATER

Y mae Dwr Cymru Welsh Water ar hyn o bryd yn gweithio i sicrhau bod cwsmeriaid yn ardal Llys-faen o Gaerdydd yn parhau i dderbyn cyflenwad dwr yfed o’r ansawdd uchaf yn uniongyrchol i’w tapiau.

21/02/2008

‘Buddran’ o £21 i gwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water

Fe fydd mwy na miliwn o gwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water yn derbyn eu biliau dwr a charthffosiaeth blynyddol o’r wythnos hon - ac fe fyddant yn cynnwys ‘buddran’ o £21, a wneir yn bosibl gan effeithlonrwydd cynyddol a nerth ariannol y cwmni.

21/02/2008

‘Buddran’ o £21 i gwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water

Fe fydd mwy na miliwn o gwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water yn derbyn eu biliau dwr a charthffosiaeth blynyddol o’r wythnos hon - ac fe fyddant yn cynnwys ‘buddran’ o £21, a wneir yn bosibl gan effeithlonrwydd cynyddol a nerth ariannol y cwmni.

15/02/2008

Arddangosfa gyhoeddus am fanylion cynllun buddsoddi dwr gwastraff yn Ffordd Meliden

Y mae trigolion sy’n byw yn ac o amgylch Ffordd Meliden, Prestatyn yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau cynllun buddsoddi gwerth £800,000 o eiddo Dwr Cymru Welsh Water i liniaru peryglon gorlifo mewnol yn yr ardal.

15/02/2008

Buddsoddiad amgylcheddol yn Yr Wyddgrug

Y mae Dwr Cymru Welsh Water am ddechrau gwaith ar gynllun buddsoddi gwerth £115,000, a ddaw a buddion amgylcheddol i’r Wyddgrug.

13/02/2008

Dwr Cymru Welsh Water ar y cledrau gyda chynllun buddsoddi dwr Tre-gwyr

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn gwneud cynnydd da ar eu cynllun buddsoddi dwr yn ac o amgylch Tre-gwyr, ac fel y mae’r gwaith yn datblygu i’r ail gam, y mae’r cwmni’n gwahodd trigolion i arddangosfa gyhoeddus.

13/02/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn dechrau gwaith yn Llandrillo yn Rhos

Fe fydd Dwr Cymru Welsh Water yn dechrau gwaith ar gynllun mewn ardal o Landrillo yn Rhos i leihau peryglon gorlifo mewnol i eiddo yno.

12/02/2008

Santes Dwynwen yn atgoffa disgyblion i garu'r amgylchedd

Efallai bod Dydd Gwyl Sain Ffolant yn cyflym ddynesu ond nid yw Nawddsant Cariadon Cymru wedi'i hanghofio. Fe gafodd disgyblion o Gaerdydd eu hatgoffa o 'Santes Dwynwen' yn ystod ymweliad arbennig a Chanolfan Addysg Amgylcheddol Rhostir Cog o eiddo Dwr Cymru Welsh Water, ble'r oedd gwersi yn gysylltiedig a dwr yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.

11/02/2008

Canlyniad Dwr Da!

Y mae bwcedi codi arian yn swyddfa Dwr Cymru Welsh Water yng Ngogledd Cymru unwaith eto yn gorlifo, diolch i haelioni staff yno sydd wedi codi bron £18,000 i elusen yn y flwyddyn ddiwethaf.

11/02/2008

Syrthiwch mewn cariad a Chwm Elan benwythnos Sain Ffolant hwn

Os yw’r holl ffwdan yn ymwneud a Dydd Gwyl Sain Ffolant wedi’ch gwneud ichi eisiau dianc i’r bryniau neu wedi’ch gadael chi’n chwilio’n daer am y man perffaith hwnnw i ofyn i’ch cariad eich priodi, yna fe allai taith gerdded y penwythnos hwn yng Nghwm Elan fod yr union beth y mae arnoch angen.

08/02/2008

Meliden i elwa oddi wrth fuddsoddiad gan Dwr Cymru Welsh Water i liniaru gorlifo

Fe fydd Dwr Cymru Welsh Water yn dechrau gwaith ddydd Mercher, y 13eg o Chwefror ar gynllun i leihau peryglon gorlifo mewnol i gartrefi ym Meliden, Prestatyn.

08/02/2008

Cynllun buddsoddi dwr gwastraff i Ffordd Meliden

Y mae Dwr Cymru Welsh Water ar fin ddechrau prosiect yn Ffordd Meliden, Prestatyn a fydd yn liniaru peryglon gorlifo mewnol yn yr ardal.

08/02/2008

Gwasanaeth buddugol oddi wrth Dwr Cymru Welsh Water

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn dathlu heddiw ar ol blwyddyn lwyddiannus arall eto fyth yng Ngwobrau Canolfannau Cyswllt Cymru.

22/01/2008

Gweithwyr dwr yn mynd yn ffrwythus

Y mae eleni yn mynd i fod y flwyddyn iachaf eto i staff gwasanaeth cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water, gan eu bod yn dathlu lansio’u Blwyddyn Byw’n Iach.

17/01/2008

Mynydd Isa i elwa oddi wrth fuddsoddiad gan Dwr Cymru Welsh Water i liniaru gorlifo

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi dechrau gwaith ar brosiect yn ardal Mynydd Isa o’r Wyddgrug a fydd yn lliniaru’r bygythiad o orlifo mewnol i eiddo lleol.

17/01/2008

Dwr Cymru Welsh Water yn mynd i’r afael a gorlifo yng Nghaergybi

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi cwblhau gwaith ar gynllun yng Nghaergybi a fydd yn cynorthwyo i liniaru peryglon gorlifo yn rhan o’r dref.

14/01/2008

Y mae nerth pedal beic yn tynnu £4,500 i mewn i elusen

Y mae Chris Price o Gaerdydd wedi codi mwy na £4,500 i’r elusen Cymorth Dwr ar ol cwblhau taith flinderus 500 cilometr ar gefn beic ar draws y Dwyrain Pell.

11/01/2008

Dwr Cymru Welsh Water yn cymorth amgylchedd Rhuthun

Y mae Rhuthun yn mynd i elwa oddi wrth gynllun gan Dwr Cymru Welsh Water, a fydd yn darparu hwb amgylcheddol i’r ardal.

11/01/2008

Y mae Glas Cymru yn penodi Aelodau newydd ar gyfer rol hanfodol Dwr Cymru Welsh Water

Y mae Glas Cymru wedi recriwtio 21 o Aelodau newydd a fydd a rol hanfodol gyda gweithredu Dwr Cymru Welsh Water – i gynorthwyo i sicrhau bod y cwmni yn darparu’r fargen orau bosibl i’w 1.2 miliwn o gwsmeriaid yn y blynyddoedd sydd o’n blaenau.

08/01/2008

Arddangosfa gyhoeddus i roi manylion buddsoddiad dwr gwerth £1.9 miliwn yn Nhreherbert a Threorci

Y mae trigolion yn Nhreherbert, Treorci a’r ardaloedd o amgylch yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau cynllun buddsoddi gwerth £1.9 miliwn sydd gan Dwr Cymru Welsh Water i uwchraddio’r prif bibellau dwr ledled yr ardal.

07/01/2008

Ewch i gerdded i gael gwared a’r caloriau Nadolig yng Nghwm Elan

Y mae ceidwaid cefn gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan yn cynnig y cyfle i ymwelwyr gael gwared a’r caloriau Nadolig drwy gerdded, gan fynd am dro adfywiol chwe milltir a hanner ar hyd bryniau ddydd Sul hwn (y 13eg o Ionawr).

07/01/2008

BWLETIN TRAFFIG ODDI WRTH DWR CYMRU WELSH WATER

Y mae Dwr Cymru Welsh Water ar hyn o bryd yn gweithio i sicrhau bod cwsmeriaid yn ardal Dynfant o Abertawe yn parhau i dderbyn cyflenwad dwr yfed o’r ansawdd uchaf yn uniongyrchol i’w tapiau.

07/01/2008

Yr Afon Llugwy ar fin derbyn hwb amgylcheddol

Fe fydd y mis hwn yn gweld dechrau cynllun gwerth £300,000 gan Dwr Cymru Welsh Water, sy’n mynd i ddarparu hwb amgylcheddol i’r Afon Llugwy.

21/12/2007

Gwelliannau amgylcheddol i Shotton

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn gweithio ar brosiect yn Shotton ger Y Fferi Isaf (Queensferry), sydd yn mynd i ddarparu gwelliannau amgylcheddol i’r ardal.

21/12/2007

Hwb amgylcheddol i Benarlag

Y mae pentref Penarlag yn mynd i elwa oddi wrth welliannau amgylcheddol, diolch i gwblhau cynllun gan Dwr Cymru Welsh Water yn yr ardal.

21/12/2007

Rhaglen ehangu i ddechrau yn y Flwyddyn Newydd

Y mae cynllun gwelliant i’r system garthffos gwerth £1.2 miliwn yn Heolgerrig ym Merthyr Tudful yn mynd i ddechrau ym mis Ionawr.

21/12/2007

Hwb i Afon Rhondda Fach

Y mae’r mis nesaf yn gweld dechreuad gwaith gwerth £310,000 gan Dwr Cymru Welsh Water i uwchraddio’r rhwydwaith dwr gwastraff lleol, a fydd yn darparu hwb amgylcheddol i Afon Rhondda Fach.

20/12/2007

Peidiwch gadael i’ch hunllef Nadolig ddod yn wir!

Mae cwmni dwr a charthffosiaeth yn dweud wrth gwsmeriaid y medrai Dydd Nadolig droi’n hunllef o ddraeniau a thoiledau wedi blocio i bobl sy’n tywallt gwastra