11/06/2009
Buddsoddiad mwyaf erioed wrth helpu cwsmeriaid i ymdopi â’r dirwasgiad
Er yr amgylchedd ariannol anodd mae Dŵr Cymru, y cwmni nid-er-elw sy’n eiddo Glas Cymru, wedi adrodd ar flwyddyn o gynnydd da mewn perfformiad amgylcheddol a gwasanaeth cwsmeriaid, a chodi’r ‘buddran cwsmeriaid’ i £21 y cwsmer.
Mae Glas Cymru yn unigryw o blith cwmnïau cyfleustodau’r Deyrnas Unedig am nad oes cyfranddalwyr ganddo a bydd yn defnyddio ei holl wargedion ariannol er lles cwsmeriaid Dŵr Cymru. Ers 2001, mae wedi ad-dalu rhyw £150 miliwn drwy’r ‘buddran cwsmeriaid’ blynyddol - yr unig gwmni dŵr sy’n dychwelyd arian i’w gwsmeriaid fel hyn.
Yn ogystal adroddodd Dŵr Cymru ar sefyllfa ariannol gref, y rhaglen fuddsoddi fwyaf erioed a chymorth ychwanegol ar gyfer cwsmeriaid.
Dywedodd cadeirydd Glas Cymru, yr Arglwydd Burns, “Mae Dŵr Cymru wedi ymateb yn bositif i heriau’r argyfwng ariannol. Rydym wedi gweithio’n galed i gadw ein gwasanaethau’n fforddiadwy ac wedi cyflwyno nifer o fesurau arloesol i helpu cwsmeriaid sy’n wynebu problemau wrth geisio talu biliau”.
“Ar ôl creu sefyllfa ariannol gadarn dros y saith blynedd diwethaf, llwyddwyd i gynnal ein rhaglen fuddsoddi fwyaf erioed, gan wario dros £355 miliwn ar brojectau yn ystod 2008-09 – cynnydd o 18% ar y flwyddyn flaenorol. Mae ein sefyllfa ariannol gadarn yn golygu bydd ein cwsmeriaid yn parhau i elwa o fuddion ein model busnes unigryw dros y blynyddoedd i ddod,” ychwanegodd.
Uchelbwyntiau
- ‘Buddran cwsmeriaid’ 2008-09 yn £21 per cwsmer ar gost o £27 miliwn (2007-08: £20 y cwsmer, cost £26 miliwn). Y fuddran wedi cynyddu’n rheolaidd ers ei chyflwyno yn 2003 ar £9 y cwsmer
- Cyflwyno prawf o brisiau Cymorth Dŵr Cymru, ar y cyd â phrisiau Dŵr Uniongyrchol & Casglu Dŵr a Chronfa Cefnogi Cwsmeriaid Dŵr Cymru, sy’n cynnig cymorth sylweddol i gwsmeriaid yn wynebu problemau talu biliau
- Buddsoddiad cyfalaf o £355 miliwn (2007-08: £301 miliwn) – y rhaglen fwyaf erioed i wella gwasanaeth cwsmeriaid, perfformiad amgylcheddol ac ansawdd dŵr yfed
- Gwella perfformiad amgylcheddol yn sylweddol yn 2008, yn cynnwys 100% cydymffurfiad mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff (2007: 99.1%).
- Sefyllfa ariannol gadarn, gerio yn 72% (2008: 72%) - o gymharu â 93% pan gaffaeliwyd Dŵr Cymru gan Glas Cymru ym Mai 2001.
Yn ystod y flwyddyn, bu rhaid i Dŵr Cymru ymateb i rai heriau gweithredu anarferol, yn cynnwys bygythiadau newydd i ansawdd dŵr yfed yn y gogledd a arweiniodd at ddosbarthu dau hysbysiad berwi dŵr. Yn ogystal, adeg cyfnod oer iawn y gaeaf bu rhaid gweithio’n galed i drwsio tua 100 gollyngiad bob diwrnod.
Mae Dŵr Cymru hefyd wedi cyhoeddi ei gynlluniau am y cyfnod 2010 - 2015, gan gynnig cynnal gwariant cyfalaf ar lefel uchel, yn cynnwys buddsoddiadau pwysig i ddiogelu ansawdd dŵr yfed, isafu effeithiau llifogydd carthffosydd, gostwng allyriadau carbon yn sylweddol a gwella gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd yn gallu gwneud hynny a pharhau i gynnal bil cwsmer preswyl cyfartalog yn 2015 ar yr un lefel mewn termau real ag y mae heddiw. Yn ôl ymchwil Ofwat, cymeradwywyd drafft gynllun busnes Dŵr Cymru gan dros 90% o gwsmeriaid pan gyhoeddwyd haf diwethaf.
Y canlyniadau manwl:
Canlyniadau ariannol
- Ar ôl talu ‘buddran cwsmeriaid’ o £27 miliwn, colled cyn treth (ac eithrio symudiadau gwerth teg ar offerynnau ariannol) o £11 miliwn (2007-08: elw o £11 miliwn, ar ôl talu ‘buddran cwsmeriaid’ o £26 miliwn)
- Effaith y gostyngiad mewn defnydd o ddŵr wedi costio £3 miliwn dros y flwyddyn, gyda’r galw gan gwsmeriaid busnes i lawr oddeutu 3%
- Costau gweithredu o £267 miliwn (2007-08: £234 miliwn), cynnydd sylfaenol mewn termau real o ryw £25 million, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn costau ynni o £13 miliwn a chynnydd o £6 miliwn yn y darpariaethau drwg ddyledion
- Dyledion net o 72% o werth cyfalaf rheoleiddiol (regulatory capital value - RCV) (2008: 72%)
- Sefyllfa hylifedd gref, gyda £559 miliwn o arian parod a benthyciadau heb eu defnyddio ar 31 Mawrth 2009, gan ddiogelu ariannu’r cwmni hyd 2010 a thu hwnt
- Cyfraddau credyd cadarn, gyda bondiau uwch yn destun cyfradd A gan Standard & Poor’s a Fitch Ratings, ac A3 gan Moody’s.
Perfformiad gweithredu
- Cynnal ansawdd dŵr ar lefelau uchel – cydymffurfiad parth cyfartalog o 99.95%
- 100% cydymffurfiad mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff (2007: 99.1%)
- Gostwng i 3 nifer yr achosion llygredd categori 1 a 2 (2007: 9 achos)
- Tymor haf 2009 Cymru, 43 traeth a marina baner las (2008: 47 baner las), dros 33% o gyfanswm y Deyrnas Unedig
- Cyrraedd targed gollyngiadau 2008-09 Ofwat, er effeithiau’r gaeaf oer iawn, pan drwsiwyd tua 100 gollyngiad bob dydd
- Boddhad cwsmeriaid yn dal yn uchel, yn ôl ymchwil annibynnol.
Rhaglen fuddsoddi
- Buddsoddiad cyfalaf o £355 miliwn (2007-08: £301 miliwn) er mwyn gwella gwasanaeth cwsmeriaid, perfformiad amgylcheddol ac ansawdd dŵr yfed
- Cyfanswm buddsoddiad cyfalaf ers Ebrill 2005 o £1,162 miliwn (oddeutu £1,000 ar ran pob cwsmer preswyl)
- Camau sylweddol i gyflawni’r rhaglen i wella mesurau diogelu ansawdd dŵr yfed, gan osod offer diheintio uwch fioled ar 12 safle a mesurau trin ychwanegol ar 9 safle, yn bennaf yn y gogledd.
Clic yma - Canlyniadau rhagarweiniol.
Golygyddion
- Sefydlwyd Glas Cymru yn Ebrill 2000 er mwyn cyflawni’r unig ddiben o gaffaelio Dŵr Cymru. Crëwyd fel ‘cwmni cyfyngedig gan warant’ wedi’i gofrestru o dan amodau Deddf Cwmnïau 1985. Nid oes cyfranddalwyr gan Glas Cymru. Yn hytrach, bydd yr Aelodau’n cynnal rôl rheoli corfforaethol ond ni fyddant yn derbyn buddrannau nac yn dal unrhyw ddiddordeb ariannol arall yn y Cwmni. Bydd y strwythur corfforaethol hwn yn hwyluso cadw gwargedion ariannol a’u buddsoddi er lles Dŵr Cymru a’i gwsmeriaid.
- Mae cyfansoddiad Glas Cymru yn cyfyngu ei ddiben i ariannu asedau dŵr yn rhanbarth gweithredu Dŵr Cymru a rheoli busnes Dŵr Cymru er mwyn darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth o safon uchel am y costau lleiaf posibl i’r cymunedau yn ei ranbarth. Nid oes hawl gan Glas Cymru i ddargyfeirio i gynnal gweithgareddau masnachol eraill anghysylltiedig.
- Bydd Dŵr Cymru yn contractio cwmnïau allanol i ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid a gweithredu, a chyflawni ei raglen fuddsoddi. Wrth gydweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr o fewn y diwydiant, bydd yn anelu i wella perfformiad y busnes a darparu buddion ar gyfer cwsmeriaid.
- Yn ddiweddar, cyflwynodd Dŵr Cymru becynnau prisiau cwsmeriaid newydd, unigryw o fewn diwydiant dŵr y Deyrnas Unedig, sy’n helpu cwsmeriaid yn wynebu problemau wrth geisio talu eu biliau dŵr. Maent yn cynnwys prisiau cyfartalog ar gyfer cwsmeriaid ar incwm isel ond yn defnyddio llawer o ddŵr, ac amryw ddulliau eraill yn cynnwys casglu taliadau’n uniongyrchol o fudd-daliadau.
- Yn ôl ymchwil annibynnol rheolaidd o farn cwsmeriaid gan Beaufort Research, mae boddhad cwsmeriaid â gwasanaeth cwsmeriaid Dŵr Cymru yn parhau ar lefel uchel iawn - gyda bron 80% yn “gweddol fodlon” neu “bodlon iawn”. Ym marn ein cwsmeriaid, mae gwerth am yr arian Dŵr Cymru yn uwch na’r hyn a ddarperir gan y cwmnïau cyfleustodau Cymreig eraill sy’n rhan o’r arolwg.
Diwedd
