Newyddion / Datganiadau i'r wasg |
![]() |
01/12/2009Cadwch yn ddiogel a chlyd gyda Dŵr Cymru Welsh WaterLapio cyn cracio
Cyn bod y tywydd yn troi’n wirioneddol oer a rhewllyd, y neges oddi wrth Dŵr Cymru Welsh Water yw ‘Cofiwch lapio cyn cracio’.
Mae’r cwmni dŵr yn cynnig cyngor syml i gwsmeriaid i gynorthwyo i osgoi’r anhwylustod a’r gost y gall pibell wedi’i difrodi gan rew ei achosi.
Fe ddywedodd Sally Gronow, pennaeth cyfathrebu Dŵr Cymru Welsh Water: “Fe all pibellau wedi rhwygo achosi gwerth miliynau o bunnau o ddifrod y flwyddyn, a hefyd wastraffu dŵr yn ddiangen. Fodd bynnag, fe all pobl gynorthwyo i atal hyn drwy edrych i weld bod yr holl bibellau ac ati, sestonau a thanciau mewn mannau di-wres wedi’u hinsiwleiddio’n dda ac nad oes yna fwlch yn y deunydd insiwleiddio mewn troadau, ‘tïau’ a falfiau. Nid yw’n angenrheidiol insiwleiddio o dan eich tanc yn y llofft gan y bydd yr aer cynnes o’r ystafelloedd islaw yn cynorthwyo i atal y tanc rhag rhewi.”
Mae Sally hefyd yn cynghori eich bod yn cadw gwres eich cartref ar dymheredd sy’n gyson isel yn ystod tywydd rhewllyd i atal pibellau rhag rhewi. Ac yn ystod cyfnodau hirfaith o rew, fe ddylai pibellau y tu allan ac unrhyw blymwaith agored gael eu hynysu a’u draenio, gan adael y tapiau draenio yn agored, tan y bydd y tywydd yn gwella.
Fe ddylai cwsmeriaid sy’n dymuno cael taflen wybodaeth gyda rhagor o fanylion ynglŷn â sut i osgoi pibellau dŵr wedi rhewi gysylltu â Dŵr Cymru Welsh Water ar 0800 052 0138. Fe allwch hefyd fewngofnodi i wefan Dŵr Cymru Welsh Water yn www.dwrcymru.com i lawrlwytho copi o’r daflen, neu wrando ar recordiad sain o gynnwys y daflen yn lle hynny.
Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn buddsoddi’n hael ac yn gweithio’n galed i sicrhau gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w holl gymunedau yng Nghymru. Mae’r cwmni’n buddsoddi £1.4 biliwn yn ein rhwydwaith dŵr a charthffosiaeth rhwng 2005 a 2010.
Mae’n gwmni ‘nid-er-elw’ sydd â’r unig amcan o ddarparu gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w gwsmeriaid. Nid oes gan Dŵr Cymru Welsh Water gyfranddalwyr, ac mae unrhyw elw a wneir yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid, yn ogystal ag er mwyn ei ddychwelyd i gwsmeriaid fel ‘buddrannau’. Y fuddran i gwsmeriaid am 2009/10 yw £22 i bob un cwsmer sy’n derbyn gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff, fel ei gilydd.
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Rhewi
Dadmer
Rhybudd
Gofal! Nid yw dwr a thrydan yn cymysgu
|