Dyma rai o’r cwestiynau cyffredin bydd Dŵr Cymru yn derbyn
Pam yw’r costau dŵr wedi codi?
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth diogel a dibynadwy sy’n cynnig gwerth da am yr arian i chi.
Eleni, mae terfynau prisiau Ofwat yn caniatáu codi ein prisiau er mwyn ariannu ein cynllun buddsoddi cyfalaf pum mlynedd gwerth £1.4 biliwn. Bydd yn golygu cynnydd gwmpas 5.4% mewn biliau preswyl mesuredig cyfartalog eleni, yn cynnwys 3% am chwyddiant.
Fodd bynnag, mae eich bil £22 (£11 dŵr, £11 carthffosiaeth) yn llai na’r pris a ganiatawyd gan Ofwat. A Dŵr Cymru yw’r unig gwmni dŵr sy’n talu buddran fel hyn i’w gwsmeriaid.
Beth yw Buddran Cwsmeriaid eleni?
Fel y gwyddoch, mae Dŵr Cymru yn gwmni un diben a redir er lles ei gwsmeriaid. Nid oes cyfranddalwyr gennym. Byddwn yn canolbwyntio ynni ac ymdrechion y cwmni ar ddarparu gwasanaeth dibynadwy a rhoi gwerth da am yr arian i chi.
Yn absenoldeb cyfranddalwyr, gallwn ail-fuddsoddi’r holl elw yn y busnes. Felly, yn hytrach na thalu buddran i gyfranddalwyr, byddwn yn talu buddran i chi ac yn tynnu’r swm o’ch bil.
Buddran eleni – a nodir ar eich bil – yw £22 (£11 dŵr, £11 carthffosiaeth). Rydym yn bwriadu talu buddran flynyddol i chi am y tair blynedd nesaf.
Beth yw’r gwerth trethiannol a pham ydych yn seilio fy nghostau arno?
Mae’r gwerth trethiannol yn asesiad o werth rhent blynyddol adeilad a wnaed gan Awdurdodau Lleol yn 1973, a ddiweddarwyd yn 1990. Seilir ar nifer o ffactorau yn cynnwys maint adeilad, y cyflwr cyffredinol a darpariaeth gwasanaethau lleol.
Rhoddodd Deddf Diwydiant Dŵr 1999 hawl i gwmnïau dŵr ddefnyddio gwerth trethiannol wrth gyfrif biliau adeiladau heb fesurydd dŵr, a adeiladwyd cyn 1 Ebrill 1990. Dyna pam bydd eich bil yn cynnwys ‘gwerth trethiannol’ (rateable value - RV).
Fydd angen eich hysbysu os bydd ein Treth Gyngor yn newid?
Na, ni fydd angen ein hysbysu os bydd eich cartref yn derbyn band Treth Gyngor newydd. Nid yw eich band Treth Gyngor yn dylanwadu ar eich costau dŵr a charthffosiaeth. Seilir eich costau ar werth trethiannol eich cartref (os adeiladwyd cyn 1 Ebrill 1990) neu ar bris safonol os adeiladwyd wedi hynny.
Oes angen talu costau dŵr a charthffosiaeth os yn adnewyddu fy nghartref?
Oes, rydych yn gyfrifol am unrhyw wasanaethau dŵr neu garthffosiaeth byddwch yn derbyn. Mae hynny’n cynnwys achosion pan fyddwch yn adnewyddu neu ailaddurno eich cartref, os bydd yn wag (ond yn cynnwys dodrefn) neu pan fydd rhywun yn byw ynddo.
Am wybodaeth bellach am ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr dros dro neu osod mesuryddion adnewyddu, galwch ni ar 0800 052 0145 (Llun – Gwener 8.00am – 8.00pm, Sadwrn 8.30am – 1.30pm).
Beth yw draenio dŵr arwyneb?
Dŵr arwyneb yw’r glaw sy’n disgyn ar adeilad neu ddŵr sy’n draenio i garthffosydd cyhoeddus o weithgaredd megis golchi car.
Mae’n bosibl bydd swm am ddraenio dŵr arwyneb ar eich bil. Mae’n cynnwys costau gwaredu a thrin dŵr arwyneb sy’n rhedeg o’ch cartref i mewn i’n draeniau, a’r dŵr yn llifo drwy eich cafnau neu’n rhedeg i’r heol ac i mewn i’n carthffosydd.
Nid oes dŵr glaw o’m cartref yn rhedeg i mewn i’r draeniau. Fydd hynny’n effeithio’r bil?
Os allwch brofi nad oes dŵr arwyneb o’ch eiddo yn cyrraedd ein draeniau, mae’n bosibl byddwn yn gallu gostwng eich bil. Am becyn gwybodaeth, galwch ni ar 0800 052 0149. Bydd angen dyfynnu eich Cyfeirnod Cwsmer (ar frig tudalen 2), eich enw a rhif ffôn dydd. Yna, byddwn yn anfon pecyn atoch i’w lenwi a dychwelyd i ni.
Oes modd arbed arian wrth osod mesurydd dŵr?
Os nad ydych yn defnyddio llawer o ddŵr, efallai byddech yn elwa o osod mesurydd dŵr. Mae’n gweithio’n debyg i fesurydd trydan neu nwy ac yn codi am yr union ddŵr a ddefnyddir.
Am wybodaeth bellach, galwch ni ar 0800 052 0138 (Llun – Gwener 8am – 8pm, Sadwrn 8:30am – 1:30pm) a gofyn am ein llyfryn di-d âl ‘Gosod Mesurydd Dŵr’.
Oes modd tynnu mesurydd o gartref newydd rwyf wedi prynu?
Ni fyddwn yn gallu tynnu mesurydd dŵr o gartref newydd. Os yn gwerthu eich cartref, bydd yn werth hysbysu darpar brynwyr fod mesurydd dŵr ynddo.
Nid wyf yn gallu fforddio’r biliau dŵr. Beth allaf wneud?
Rydym yn deall fod pobl yn gallu wynebu problemau talu biliau dŵr o bryd i’w gilydd. Peidiwch â phoeni. Rydym yma i helpu.
Galwch ni ar 0800 052 0145 (Llun – Gwener 8am – 8pm, Sadwrn 8:30am – 1:30pm). Mae’n bosibl byddwn yn gallu trefnu i chi dalu eich bil mewn rhandaliadau bob wythnos, pythefnos neu fis.
Efallai byddwn yn gallu gostwng eich costau os yn derbyn Cymhorthdal Incwm/Lwfans Cyflogaeth & Cymorth ar sail incwm, y Lwfans Chwilio Gwaith ar sail incwm neu’r Credyd Pensiwn, mae’n bosib bydd yr Adran Gwaith & Pensiynau yn gallu trefnu taliadau uniongyrchol i ni o’ch budd–daliadau – dyma’r cynllun trydydd parti.
Os yn derbyn un o’r prif fudd-daliadau neu gredydau treth, a bod 3 neu fwy o blant dibynnol o dan 19 oed yn byw gyda chi, neu aelod o’r teulu yn dioddef o gyflwr meddygol sy’n galw am ddefnyddio llawer o ddŵr, mae’n bosibl byddwch yn gymwys i dalu prisiau Cymorth Dŵr Cymru sy’n trefnu biliau ar sail swm cyfartalog. Galwch 0800 052 0138 i weld os ydych yn gymwys a gofyn am ffurflen gais.
Dim ots beth yw eich sefyllfa, mae ’n bwysig siarad â ni’n syth. Os na fyddwn yn gwybod am eich sefyllfa, neu’n methu cysylltu â chi i drafod bil dyledus, byddwn yn penodi asiantaeth casglu dyledion yn otomatig. A gallai hynny olygu mwy o gostau i chi.
Dangos cwestiynau ar:
Os am weld cwestiynau cyffredin ar bwnc penodol, defnyddiwch y ddewislen isod: