RYDYCH YMA > Hafan > Graddedigion > Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

corner

Sut i gysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 0145

Oes modd anfon ebost i ofyn cwestiynau pellach neu holi am fy nghais?
Oes. Anfonwch ebost at: recruitment@dwrcymru.com

Fydd cyfle i symud o gwmpas y cwmni a’i bartneriaid?
Bydd. Byddwn yn cymell pawb i symud o gwmpas a phrofi gwahanol feysydd o fewn y busnes. Mae’n bwysig fod pobl yn deall yr amrediad o gyfrifoldebau a meysydd gwaith o fewn y busnes.

Fyddwch yn talu treuliau ail-leoli?
Byddwn yn ceisio hwyluso eich trefniadau symud, gan roi cyngor ar asiantaethau gosod tai a helpu gyda threuliau pan fo angen.

Beth yw dyddiad cychwyn eich rhaglen graddedigion?
Bydd y rhaglen yn dechrau ym Medi 2008, ond gallwn dderbyn graddedigion cyn hynny

Beth fydd yn digwydd yn ystod y cyfnod sefydlu 2 wythnos?
Byddwch yn cyfarfod â phob tîm yn gweithio o fewn Dŵr Cymru, o gyllid i strategaethau asedau, ynghyd â dysgu am gynnwys y rhaglen a dulliau gweithredu’r busnes.

Beth yw’r graddau addas?
Byddwn yn edrych am raddau da mewn amryw bynciau, yn cynnwys peirianneg, gwyddoniaeth a gwyddorau amgylcheddol. Nid yw’r math o radd mor bwysig â brwdfrydedd a gallu i addasu i gwrdd â gofynion y rôl.

 

corner

Gwybodaeth bellach

Clic i lwytho ffurflen gais

Clic i lwytho ffurflen gais.