Nid ydym yn rhagweld problemau hir dymor gyda chyflenwadau dŵr yng Nghymru ac ni fu unrhyw gyfyngiad ar bibellau dyfrio gerddi ac ati neu ddefnydd dŵr yn gyffredinol am 15 mlynedd. Ar ben hynny, nid ydym yn rhagweld cynnydd yn y galw am ddŵr oherwydd mae’r cynnydd yn y defnydd o ddŵr mewn cartrefi yn cyfateb yn fras i’r gostyngiad yn y galw gan ddiwydiannau trwm a’n mesurau i ostwng gollyngiadau.
Ar hyn o bryd mae ein cronfeydd dŵr bron yn llawn - sef y sefyllfa arferol yr amser hwn o’r flwyddyn.
Fodd bynnag, ni fyddwn yn llaesu dwylo – dyna pam ein bod yn buddsoddi cymaint yn ein rhwydwaith ac ar daclo gollyngiadau, sydd wedi haneru dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae ein timau datgelu gollyngiadau yn defnyddio’r technolegau diweddaraf i gael hyd i broblemau a’u trwsio. Dros y chwe blynedd diwethaf rydym wedi gwario £69 miliwn ar ddatgelu a thrwsio gollyngiadau ar ein rhwydwaith ac wedi gostwng gollyngiadau gymaint â 26%. Mae hynny wedi arbed digon o ddŵr i gyflenwi anghenion preswyl dyddiol dinas mor fawr â Chaerdydd. Gall cwsmeriaid hefyd ein helpu wrth ein hysbysu o unrhyw ollyngiadau. Dylai cwsmeriaid alw ‘llinell gollyngiadau’ 0800 281 432 (agored 24 awr, 7 dydd), os am hysbysu gollyngiad ar y rhwydwaith. O dderbyn neges gennych byddwn yn gallu ymchwilio a thaclo unrhyw broblem.
Mae pawb yn cydnabod fod adnoddau dŵr yn werthfawr a bod angen defnyddio dŵr yn gyfrifol ar bob amser. Byddwn yn atgoffa cwsmeriaid yn rheolaidd o’r angen i arbed dŵr wrth wneud yr isod:
Trwsio tapiau sy’n diferu
Lagio pibellau & tanciau dŵr
Trwsio gollyngiadau ar bibellau tan ddaear ac ati
Rydym hefyd yn cynhyrchu llyfrynnau ‘Archwiliadau Dŵr’ ar gyfer cartrefi, ysgolion a busnesau. Maent yn amlinellu dulliau syml o arbed dŵr wrth ei ddefnyddio’n ddoeth.
Gwybodaeth bellach
Dŵr yn gollwng o'n pibellau cyflenwi?
Galwch 0800 281 432 (24 awr, 7 diwrnod yr wythnos)