Mae deall effaith gweithgaredd Dŵr Cymru ar yr amgylchedd ehangach a’r camau gallwn gymryd i isafu unrhyw effeithiau negyddol yn un o flaenoriaethau’r busnes. Bydd ein diwydiant yn rhyngweithio â’r amgylchedd a’r gymuned mewn ffyrdd amgenach na diwydiannau eraill. Wrth gyflenwi dŵr yfed a chasglu a thrin dŵr gwastraff, a chynnal asedau a rhwydweithiau’n ofalus, byddwn yn helpu i ddiwallu gofynion iechyd cyhoeddus heddiw ac yfory.
Bydd ein prosesau trin dŵr a dŵr gwastraff yn cael effaith uniongyrchol ar yr amgylchedd. Er enghraifft, wrth ddefnyddio adnoddau sylfaenol fel ynni, dŵr a chemegau neu arllwys i ddŵr (croyw ac arfordirol), cynhyrchu gwastraff (yn arbennig llaid), allyrru i’r awyr (aroglau a nwyon tŷ gwydr) a photensial niwed i’r amgylchedd.
Rydym wedi ymrwymo i nodi a thaclo oblygiadau amgylcheddol ein gwaith, a chydnabod ac ystyried cyfleoedd i wella’r amgylchedd.
Mae ein polisi amgylcheddol yn amlinellu sut byddwn yn trafod yr amgylchedd ehangach a’r arolwg amgylcheddol yn disgrifio’n dulliau yn fwy manwl