corner

Polisi amgylcheddol

DCWW Logo

Prif gyfrifoldeb Dŵr Cymru yw diwallu anghenion a disgwyliadau ein cwsmeriaid wrth ddarparu cyflenwad dŵr yfed glân a dibynadwy, a delio’n effeithiol â dŵr gwastraff. Wrth wneud hynny, byddwn yn ceisio nodi ac ymateb i oblygiadau amgylcheddol ein gweithgareddau ac ystyried cyfleoedd i gynnal yr amgylchedd.

 

Ein nod yw:

  • cynnal yr amgylchedd, gan ystyried cyfleoedd i ddiogelu a chynyddu bioamrywiaeth ble’n ymarferol
  • defnyddio adnoddau’n effeithiol, yn cynnwys ynni a dŵr, a rheoli gwastraff yn effeithiol
  • defnyddio ynni yn effeithiol ym mhob gweithgaredd
  • integreiddio ystyriaethau amgylcheddol o fewn prosesau caffaelio
  • dilyn deddfwriaeth amgylcheddol a chodau ymarfer perthnasol
  • rheoli gweithgaredd a dŵr gwastraff er mwyn atal llygredd
  • hyrwyddo gwell dealltwriaeth o werth dŵr a’i rôl yn ein bywydau bob dydd.

Byddwn yn ceisio gwneud hynny wrth wneud yr isod:

  • seilio penderfyniadau busnes ehangach ar ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cadarn
  • cymryd camau i sicrhau bydd pob aelod staff, yn cynnwys rhai a gyflogir gan bartneriaid contract allanol, yn dilyn y polisi yma
  • adolygu perfformiad amgylcheddol a gosod targedau er parhau i wella
  • adrodd canlyniadau i bwyllgor ansawdd ac amgylchedd Bwrdd Glas Cymru a chyhoeddi adolygiad perfformiad yn achlysurol.
corner

Contact us

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145
corner

Gwybodaeth bellach

Arolwg Bioamrywiaeth

Arolwg Bioamrywiaeth

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 678kb


Arolwg Amgylcheddol

Arolwg Amgylcheddol

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

File size: 679kb