Mae Dŵr Cymru yn gyfrifol am un o’r arfordiroedd hiraf o blith cwmnïau dŵr a charthffosiaeth Cymru a Lloegr. Mae sicrhau bod dŵr yr arfordir o safon uchel yn bwysig i ddiwydiant croeso Cymru sy’n cyflogi tua 100,000 ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi’r wlad.
Mae’r prosesau trin yn ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn chwarae rhan hanfodol o ran sicrhau bod y dŵr ymdrochi’n cyrraedd safonau rhagorol. Dros y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi buddsoddi dros £1 biliwn ar wella neu adeiladu gweithfeydd trin dŵr gwastraff ledled ein hardal weithredu.
Mwynhau ein harfordir
Partneriaeth Môr Glas
Mae Dŵr Cymru’n falch o gael bod yn rhan o Bartneriaeth Môr Glas, sef partneriaeth anffurfiol o dros 40 o gyrff sydd wedi ymrwymo i warchod a gwella amgylchedd arfordir Cymru. Er pan lansiwyd y bartneriaeth ym mis Mai 1996 mae wedi llwyddo’n dda i gynyddu nifer y traethau Baner Las.
Baneri Glas
Enillodd 42 o draethau a 5 marina Faneri Glas yn 2008 (i weld rhestr lawn o’r traethau a’r marinas llwyddiannus).
Caiff ymgyrch y Faner Las ei gweinyddu yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn y DU gan ENCAMS (Cadwch Brydain yn Daclus) ar ran yr FEE (Sefydliad Addysg Amgylcheddol). Bu Baneri Glas yn cyhwfan dros draethau ledled Ewrop a’r DU ers dechrau’r ymgyrch ym 1987, ac felly gellir cymharu’r sefyllfa â thraethau a marinas mewn 22 o wledydd.
Mae’n rhaid i ansawdd Dyfroedd Ymdrochi gyrraedd y safonau canllaw uchaf a argymhellir gan Ewrop ac mae’n rhaid i’r traeth fod yn lân ac wedi’i reoli’n dda a rhaid iddo hyrwyddo rheolaeth amgylcheddol gadarn.
Gwobrau Arfordir Gwyrdd
Enillodd 46 o draethau Wobr Arfordir Gwyrdd yn 2008.
Mae Gwobr yr Arfordir Gwyrdd yn symbol o ragoriaeth amgylcheddol a sefydlwyd i gydnabod, hyrwyddo a diogelu amgylchedd traethau gwledig yng Nghymru.
Nod Gwobrau’r Arfordir Gwyrdd yw:
‘Cydnabod y traethau hynny sy’n cyrraedd safonau ansawdd dŵr Canllaw ac sy’n werthfawr oherwydd eu bod yn naturiol a heb eu difetha’
Mae Gwobr yr Arfordir Gwyrdd yn unigryw gan ei bod yn cydnabod ansawdd dŵr Canllaw (sef dull yr UE o ddynodi ansawdd dŵr rhagorol) yn ogystal ag Arferion Gorau ym maes rheoli amgylcheddol ar draethau gwledig lle na cheir yr un cyfleusterau ag ar y prif draethau. Fe’i rheolir yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Rhoddir Gwobr Arfordir Gwyrdd i draethau y mae’r gymuned yn cymryd rhan yn y gwaith o’u rheoli, er budd ymwelwyr a’r amgylchedd. Mae’n rhoi pwyslais mawr ar weithgareddau cymunedol ac amgylcheddol.
Gwobrau Glan Môr
Enillodd 111 o draethau Wobrau Glan Môr yn 2008.
Er mwyn cael y faner las a melyn arbennig, mae’n rhaid i’r dŵr gyrraedd safon orfodol a rhaid i’r traethau fod yn rhai;
Glân
Diogel
Syd wedi’u rheoli’n dda
Gan fod pob traeth yn wahanol, ceir dau ddosbarth ar gyfer y Gwobrau Glan Môr, sef ‘cyrchfan’ a ‘gwledig’.
Mae traeth ‘Cyrchfan’ sy’n ennill Gwobr Glan Môr yn denu llawer o ymwelwyr oherwydd ei gyfleusterau a’i weithgareddau. Fel rheol, mae’r rhain mewn trefi neu gerllaw iddynt. Mae traethau ‘cyrchfan’ yn cynnig toiledau, meysydd parcio, cyfleusterau a dulliau mynediad ar gyfer pobl anabl ac maen nhw’n cyfyngu ar hawliau i fynd â chŵn ar y traeth.
.
Gwybodaeth bellach
42 o draethau Cymru a 5 marina yn ennill Baneri Glas