06/05/2010
Fe ddaw buddsoddiad gan Dwr Cymru Welsh Water a buddion i Ben-y-Maes
Mae Dwr Cymru Welsh Water wedi cwblhau cynllun buddsoddi gwerth Ł450,000, fydd yn darparu gwelliannau amgylcheddol i ardal Pen-y-Maes yn Nhreffynnon.
Mae’r cwmni cyfleustod wedi gorffen y gwaith uwchraddio yng ngorsaf bwmpio Pen-y-Maes, fydd yn gwella perfformiad y rhwydwaith dwr gwastraff yn yr ardal, yn enwedig yn ystod cyfnodau o law mawr.
‘Roedd gwaith ar y cynllun yn cynnwys gosod cyfarpar newydd a phibwaith cysylltiedig, a newid ffensys o amgylch y gwaith.
Er mwyn i’r cynllun gael ei gwblhau’n ddiogel, ‘roedd hi’n angenrheidiol cau llwybr troed ger y safle rhwng caeau chwarae Ysgol Uwchradd Treffynnon a Nant y Coed.
Fe ddywedodd Clara Hughes, cynrychiolydd cyfathrebu Dwr Cymru Welsh Water: “Mae’r cynllun hanfodol hwn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Dwr Cymru Welsh Water i barhau i fuddsoddi yn ein rhwydwaith dwr gwastraff er budd ein cwsmeriaid a’r amgylchedd lleol. Fe hoffem ddiolch i drigolion lleol, yn enwedig y sawl sydd agosaf at ble mae’r gwaith wedi’i wneud, am fod yn amyneddgar gyda ni tra oedd y gwaith hanfodol hwn yn cael ei gwblhau.”
Fe gysylltodd Dwr Cymru Welsh Water gyda chyrff perthnasol, yn cynnwys Cyngor Sir Y Fflint ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, yn ystod camau cynllunio’r prosiect.
Mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi’n hael ac yn gweithio’n galed i sicrhau gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’r holl gymunedau maent yn eu gwasanaethu. Mae’r cwmni’n buddsoddi Ł1.2 biliwn yn ei rwydwaith dwr a charthffosiaeth rhwng 2010 a 2015.
Mae’n ‘gwmni nid-er-elw’ sydd wedi bod ym mherchnogaeth Glas Cymru ers 2001. Nid oes gan Dwr Cymru Welsh Water gyfranddalwyr, ac mae unrhyw wargedion ariannol yn cael eu hail-fuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid.
