16/04/2010

Mae disgyblion yng Ngogledd Cymru yn cynorthwyo i ychwanegu tasgiad o liw

Newyddion / Datganiadau i’r wasg - Mae disgyblion yng Ngogledd Cymru yn cynorthwyo i ychwanegu tasgiad o liw
Cara Thomas, 7, a Jack Myrick, 8, yn cymysgu paent ar gyfer y prosiect celfyddydol gan Dwr Cymru Welsh Water.

Mae disgyblion Blwyddyn 5 a 6 o Ysgol Bodfeurig yn Nyffryn Ogwen wedi cynorthwyo i ychwanegu ‘tasgiad o liw’ at Ganolfan Addysg Alwen o eiddo Dwr Cymru Welsh Water, diolch i Weithdy Celfyddydau Gweledol arbennig.

Fe dreuliodd y disgyblion dridiau mewn gweithdy a gynhaliwyd yn Galeri yng Nghaernarfon, ble ‘roeddynt yn gweithio gydag arlunydd lleol, Eleri Jones, yn creu gweithiau celf sy’n dangos y gwahanol ddefnyddiau y gellir eu gwneud o ddŵr.

‘Roedd y gweithdy’n rhan o brosiect ‘Cam Diwylliant’ Celfyddydau a Busnes Cymru mewn partneriaeth rhwng Dwr Cymru Welsh Water a Galeri i nodi’r buddsoddiad gwerth Ł15.1 miliwn sy’n digwydd ar hyn o bryd yng ngwaith trin dŵr Alwen, sydd wedi’i gysylltu gyda’r ganolfan addysg.

Cyn dechrau’r prosiect celfyddydol, fe gyfarfu disgyblion ag athrawes Dwr Cymru Welsh Water, Bethan Copeland, a roddodd wybodaeth iddynt am sut mae Dwr Cymru Welsh Water yn casglu ac yn glanhau dwr yfed. Gyda’i gilydd, fe wnaethant hefyd drafod argae Alwen a’r bywyd gwyllt naturiol y gellir ei ganfod o amgylch llynnoedd ac afonydd. ‘Roeddynt wedyn yn barod i roi paent ar bapur a mynd ati i greu’r darnau.

Fe ddywedodd Bethan: “’Roedd y disgyblion yn wirioneddol frwdfrydig, ac ‘roedd hi’n wych rhoi rhywfaint o wybodaeth fewnol iddynt am y testun cyn i’w gwaith celfyddyd gael ei gynhyrchu. Fe wnaed argraff arnaf gan ba mor dda y gwnaethant amgyffred y pwnc - mae’r paentiadau yn fendigedig, ac fe fyddant yn edrych yn syfrdanol pan fyddant yn cael eu harddangos yn Alwen.”

Fe ddywedodd Dawn Worsley, Cydlynydd Celfyddydau Cymunedol Galeri: “’Roedd hi’n hyfryd cael y disgyblion o Fodfeurig yma yn Galeri, ac ‘roedd y gwaith y gwnaethant ei gynhyrchu yn ardderchog. Fe wnaethom ddarganfod gwir ddoniau, ac fe ddylent i gyd fod yn falch iawn o’u hymdrechion.”

Mae Galeri Caernarfon Cyf yn fenter gymunedol ddosbarthu ddi-elw sy’n gweithredu fel Ymddiriedolaeth Ddatblygu. Fe sefydlwyd y cwmni i ddilyn prosiectau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol er budd y gymuned yng Nghaernarfon a’i hamgylchoedd mewn ffordd greadigol.

Mae Canolfannau Addysg Amgylcheddol Dwr Cymru Welsh Water yn darparu gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn yn ddi-dal. Mae’r gwersi i gyd yn llwyr integreiddio’r cwricwlwm sgiliau newydd drwy ymagweddiad ymarferol, gweithredol tuag at feddwl a dysgu.

Mae Dwr Cymru Welsh Water yn cyflwyno negeseuon hanfodol i hysbysu, datblygu a hyrwyddo mwy o ddealltwriaeth o faterion cyfredol yn ymwneud ag Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy drwy’r cyfleoedd addysgu a dysgu yn yr awyr agored a gynigir yn eu canolfannau.

Mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi’n hael ac yn gweithio’n galed i sicrhau gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w holl gymunedau yng Nghymru. Mae’r cwmni’n buddsoddi Ł1.4 biliwn yn ei rwydwaith dwr a charthffosiaeth rhwng 2005 a 2010.

Mae’n gwmni ‘nid-er-elw’ sydd â’r unig amcan o ddarparu gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w gwsmeriaid. Nid oes gan Dwr Cymru Welsh Water gyfranddalwyr, ac mae unrhyw elw a wneir yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid, yn ogystal ag er mwyn ei ddychwelyd i gwsmeriaid fel ‘buddrannau’.