15/07/2009

Mae gweithwyr dwr yn cadw Cymru’n daclus

Newyddion / Datganiadau i’r wasg - Mae gweithwyr dwr yn cadw Cymru’n daclus
Panel Cymunedol Kelda ar waith gyda’u gwobr Cadwch Gymru’n Daclus.

Cadw De Cymru’n daclus yw nod carfan o weithwyr dwr sydd wedi cwblhau’u cynlluniau ar gyfer cyfres o ymgyrchoedd glanhau yn y gymuned am y 12 mis nesaf.

Ers diwedd 2007, mae staff wedi ymroi mwy na 500 o oriau i brosiectau cymunedol, gan gasglu 106 o fagiau, 10 o sgipiau a 16 tunnell fetrig o wastraff cyffredinol!

Mae staff o Wasanaethau Dwr Kelda, y cwmni sy’n rheoli gwasanaethau dwr gwastraff yn Ne Cymru ar ran Dwr Cymru Welsh Water, yn awyddus i wneud gwahaniaeth ar ol y llwyddiant a gyflawnwyd ‘llynedd pan wnaethant ennill y Categori Busnes yng ngwobrau Cadwch Gymru’n Daclus.

Er mai ym Mhonthir yn Nhorfaen y mae pencadlys Gwasanaethau Dwr Kelda yng Nghymru, fe ddaw’r gweithwyr o bob cwr o Dde Cymru.

Hyd yn hyn eleni, mae yna dri o ymgyrchoedd glanhau afonydd wedi’u cynnal mewn cydweithrediad a Cadwch Gymru’n Daclus, Wythnos Spring into Action ym Mharc Gwledig Margam, Port Talbot ac ymgyrch glanhau traeth yn Ogwr ger Pen-y-bont ar Ogwr. Fe fydd yna fwy o ymgyrchoedd glanhau traethau yn Ogwr, a Niwgwl yn sir Benfro, a chasglu ysbwriel yn Aberystwyth yng Ngheredigion.

Fe ddywedodd Joanna Hobbs, Cadeirydd Panel Cymunedol Gwasanaethau Dwr Kelda: “’Rydym wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau, o ymgyrchoedd tacluso gerddi ysgolion i greu pwll ar gyfer madfallod dwr cribog.

“’Rydym eisiau cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau a’r amgylchedd ble ‘rydym yn gweithio ar ran Dwr Cymru Welsh Water, ac nid yn unig y mae cydweithwyr yn cael ymdeimlad o gyflawniad ond y maent hefyd yn elwa o adeiladu tim a datrys problemau. Fel arfer, mae hefyd yn llawer o hwyl,” fe ychwanegodd hi.

Mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi’n hael ac yn gweithio’n galed i sicrhau gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w holl gymunedau yng Nghymru. Mae’r cwmni’n buddsoddi £1.4 biliwn yn ei rwydwaith dwr a charthffosiaeth rhwng 2005 a 2010.

Mae’n gwmni ‘nid-er-elw’ sydd a’r unig amcan o ddarparu gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w gwsmeriaid. Nid oes gan Dwr Cymru Welsh Water gyfranddalwyr, ac mae unrhyw elw a wneir yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid, yn ogystal ag er mwyn ei ddychwelyd i gwsmeriaid fel ‘buddrannau’. Y fuddran i gwsmeriaid am 2009/10 yw £22 i bob un cwsmer sy’n derbyn gwasanaethau dwr a dwr gwastraff, fel ei gilydd.